Mae Haf o Hwyl wedi dechrau yng Ngheredigion gyda 46 prosiect yn cael cefnogaeth ariannol i ddarparu gweithgareddau a fydd yn gwella llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol holl blant a phobl ifanc y sir.

Yn sgil cyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd amrywiaeth o fentrau rhyngweithiol a chreadigol sy’n seiliedig ar chwarae yn y gymuned.

Bydd Haf o Hwyl, sy’n cael ei gynnal am yr ail flwyddyn yn olynol, yn creu lleoedd diogel ar gyfer chwarae’n rhydd a gweithgareddau corfforol, lle y gall plant a phobl ifanc ddatblygu a/neu ailadeiladu eu sgiliau cymdeithasol.  Bydd hefyd yn annog pobl ifanc i ymroi i weithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol y tu hwnt i ddysgu ffurfiol. 

Bydd Haf o Hwyl 2022 yn anelu at roi cyfle i holl blant a phobl ifanc Cymru sydd rhwng 0 a 25 oed gael mynediad at weithgareddau rhad ac am ddim a fydd yn cynnig cymorth iddynt o ran eu datblygiad a’u lles.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae cyllid Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i blant a phobl ifanc Ceredigion, gan ein galluogi i ddarparu cyfleoedd yn rhad ac am ddim drwy gydol gwyliau’r haf ac felly, rydym yn cael gwared â rhwystrau ffioedd mynychu, yn enwedig wrth i gostau byw gynyddu’n ddyddiol. Mae’n hyfryd gweld gweithgareddau mor amrywiol yn cael eu cynnig gan wahanol sefydliadau ledled Ceredigion – o feysydd diwylliannol a chelf a chrefft i gemau, chwaraeon a chwarae. Mae’n wych gweld amgylchedd naturiol ein sir yn cael ei ddefnyddio i ddarparu’r gweithgareddau, gan ein bod yn byw mewn lle mor hardd.  Rydym yn gwybod i weithgareddau Gaeaf Llawn Lles fod yn llwyddiant ysgubol ac edrychwn ymlaen at weld Haf o Hwyl yn llwyddo i’r un graddau os nad gwell!”   

Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn dod i wybod am weithgareddau yn eich ardal chi.  Gallwch ddilyn @CeredigionActif am fwy o wybodaeth.

13/07/2022