Mae tri pherson ifanc lleol wedi elwa o fwrsariaeth a ddarparwyd unwaith eto eleni i gefnogi dyheadau a mentergarwch pobl ifanc.

Dyma’r bumed flwyddyn i Fwrsari Ieuenctid Ceredigion gael ei gynnal, gyda busnes lleol, sef West Wales Holiday Cottages, yn cynnig hyd at £1,000 i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i’w helpu i gyflawni eu dyheadau ar gyfer y dyfodol. Derbyniwyd cyfanswm o 26 o geisiadau eleni, yn amrywio o fentrau cymdeithasol i syniadau am brosiectau, digwyddiadau cymunedol a cheisiadau am hyfforddiant.

Dewiswyd y ceisiadau llwyddiannus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion (Panel Dewis) a drafododd yn ofalus a phenderfynu ar dri enillydd eleni.

Yn ystod gwyliau'r haf, cyfarfu aelodau'r Fforwm Ieuenctid a threuliwyd amser yn darllen ac yn trafod pob cais. Trwy ddefnyddio matrics sgorio, penderfynwyd dyfarnu'r fwrsariaeth i dri ymgeisydd llwyddiannus, a hynny am eu syniadau arloesol a'r effaith bosibl ar eu bywydau a'u cymunedau yng Ngheredigion.

Derbyniodd Kai Frisby, 16 oed, Harvey Matthews, 15 oed a Gwenno Evans, 25 oed, y fwrsariaeth i'w cefnogi i gyrraedd eu nodau personol mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a chreu busnes newydd.  

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc: “Rydym yn ddiolchgar iawn i West Wales Holiday Cottages am roi’r cyfle hwn i ni unwaith eto eleni. Fel ni, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod gwerth buddsoddi yn ein pobl ifanc, er mwyn eu cefnogi i gyrraedd eu potensial. Mae’n gyfle gwych i gydweithio â busnes lleol. Roedd yn wych gweld ansawdd a nifer y ceisiadau a dderbyniwyd. Mae’r cyfle hwn hefyd yn brofiad da i aelodau ein Fforwm Ieuenctid a wnaeth yn dda iawn wrth wneud rhai penderfyniadau anodd.”

Gwahoddwyd yr enillwyr i swyddfeydd WWHC yn Aberporth ar 30 Tachwedd i gyflwyno eu sieciau iddynt.

Dywedodd Gwenno Evans, enillydd Bwrsariaeth nad oedd yn gallu ymuno â’r noson gyflwyno: “Hoffwn ddiolch yn fawr i West Wales Holiday Cottages ac i Dîm Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion am y cyfle hwn. Gwelais y cyfle ar-lein, a theimlais ei fod yn gyfle perffaith i fy helpu i ddechrau fy musnes bach. Roedd y broses ymgeisio yn un syml ac rwy’n ddiolchgar iawn o fod wedi derbyn cyfraniad o’r fwrsariaeth eleni.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau i’r holl bobl ifanc a gyflwynodd geisiadau cryf ar gyfer y fwrsariaeth hon. Roedd hi’n bleser gweld dyheadau a mentergarwch gyffrous y bobl ifanc ac rwy’n falch iawn eu bod yn cael cydnabod gyda’r fwrsariaeth arbennig hon. Pob lwc i bawb yn y dyfodol.”

Bydd rhagor o wybodaeth am fwrsariaeth y flwyddyn nesaf ar gael yn 2023. Dilynwch Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.

 

09/12/2022