Mae Gwasanaeth sy'n cefnogi cartrefi bregus yng Ngheredigion wedi cael ei gydnabod gyda'r trydydd safle mewn Seremoni Wobrwyo Genedlaethol.

Dyfarnwyd y 3ydd safle i Gynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cyngor Sir Ceredigion yn Seremoni Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cenedlaethol a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Hilton Birmingham Metropole ar 14 Hydref 2022.

Cyflwynwyd y Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni i helpu i gydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan y sector effeithlonrwydd ynni ledled y DU. Enwebwyd 14 o gynghorau yn genedlaethol ar gyfer y wobr, a chipiodd Cyngor Sir Ceredigion y drydedd wobr ar gyfer 'Cyngor Cenedlaethol neu Awdurdod Lleol y Flwyddyn' fel cydnabyddiaeth am gyflawni prosiectau effeithlonrwydd ynni ar gyfer y gymuned leol rhwng Ionawr 2021 a Mawrth 2022. Rhoddwyd pwyslais arbennig ar integreiddio cynlluniau Cymhwysedd Hyblyg ECO a Ceredigion Clyd yn llwyddiannus.

Barnwyd y cynlluniau ar sail:

  • effaith y gwaith ar y gymuned leol.
  • beth oedd gan y cwsmeriaid a'r gymuned leol i'w ddweud am y Cyngor.
  • pa lefel o arbenigedd oedd gan y Cyngor o fewn eu timau eu hunain.
  • pa flaenoriaeth y mae'r Cyngor yn ei rhoi i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn ei gynlluniau presennol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn cyflwyno cynllun Cymhwysedd Hyblyg ECO yr Awdurdod Lleol ynghyd â Chynllun Ceredigion Clyd a Ariennir gan Gartrefi Cynnes ers sawl blwyddyn. Mae'r cynlluniau hyn wedi helpu perchnogion tai i leihau eu biliau ynni, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon drwy osod systemau gwresogi a mesurau inswleiddio cysylltiedig, gan wella effeithlonrwydd ynni cartrefi. Mae'r gwaith hwn wedi bod yn hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw ac ynni, gan helpu i leihau'r defnydd o drydan.

Y Cynghorydd Matthew Vaux yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Tai. Dywedodd: “Unwaith eto hoffwn longyfarch y Gwasanaeth Tai. Mae'r wobr hon, ynghyd â'r gwobrau blaenorol a dderbyniodd y Gwasanaeth ym mis Mehefin eleni, yn dangos ymrwymiad i gefnogi aelwydydd bregus yn ein cymunedau i fynd i'r afael â'r costau ynni cynyddol. Mae cydnabyddiaeth ar Lefel Genedlaethol yn wobr i ymdrechion y Gwasanaeth wrth iddynt barhau i gefnogi trigolion Ceredigion.”

Noddwyd y wobr hon gan United Living.

25/11/2022