Cadarnhawyd yng nghyfarfod y Cyngor heddiw mai’r Cynghorydd Bryan Davies o grŵp Plaid Cymru fydd Arweinydd newydd Cyngor Sir Ceredigion.

Cynhaliwyd y cyfarfod ddydd Gwener, 13 Mai 2022, yn Siambr y Cyngor a dyma oedd cyfarfod cyntaf y Cyngor yn ei weinyddiaeth newydd yn dilyn yr Etholiadau Lleol a gynhaliwyd ar 05 Mai 2022.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies, wrth dderbyn ei swydd: “Diolch i bawb am eich cefnogaeth, rwy’n addo gwneud fy ngorau dros bobl Ceredigion a’r sir hon. Nid oes gwadu fod yna gyfnod anodd o’n blaenau ond trwy drafod a chydweithio gallwn roi buddiannau’r sir yn gyntaf. Hoffwn hefyd groesawu’r holl aelodau etholedig newydd, gan ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r weinyddiaeth flaenorol. Mae gennym ystod dda o leisiau a thalentau yn y Cyngor hwn, a hoffwn ddymuno’n dda i Gyngor Sir Ceredigion yn ystod y weinyddiaeth newydd.”

Ychwanegodd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Paul Hinge: “Llongyfarchiadau mawr i’r Arweinydd newydd. Edrychaf ymlaen at gydweithio â chi a phob un o’r Cynghorwyr newydd eu hethol yn ystod y tymor newydd hwn.”

Roedd y Cynghorwyr newydd eu hethol yn bresennol i lofnodi eu Datganiad o Dderbyn Swydd a’u hymrwymiad i gadw at y Cod Ymddygiad.

Gellir gweld rhestr gyflawn o’r Cynghorwyr a etholwyd ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Cynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion 

 

13/05/2022