Mae baw cŵn yn gonsyrn sydd yn codi mewn sawl cymuned. Mae baw cŵn yn fochaidd a medru peri problemau iechyd yn enwedig i blant.

Mae’r Cyngor Sir yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth gyffredinol o’r disgwyliad fod pobl yn glanhau ar ôl eu cŵn.

Gyda chynnydd yn y nifer o bobl sydd erbyn hyn yn cadw cŵn mae ’na gynnydd anochel hefyd wedi bod ym mhresenoldeb baw cŵn. Tra bod y mwyafrif llethol sy’n cadw cŵn yng Ngheredigion yn clirio fyny ar ôl ei ffrind gorau, yn anffodus, mae ’na leiafrif sydd ddim.

Meddai Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rydym yn galw ar bob perchennog ci i wneud y peth cywir, cydwybodol, cyfreithiol a chyfrifol. Er mwyn cefnogi a hwyluso hyn rydym yn gweithredu ymgyrch Eich Ci Eich Cyfrifoldeb ar y cyd gyda mesurau ymarferol sy’n cynnwys fod pob bin sbwriel gwastraff cyffredinol sydd yn cael ei ddarparu gan y Cyngor yn derbyn baw cŵn mewn bagiau”.

Bwriad Eich Ci Eich Cyfrifoldeb yw gwneud argraff weledol iawn drwy ddefnyddio deunyddiau sy’n cynnwys stensiliau ar y ffordd ynghyd ag arwyddion trawiadol a amlwg. Mae modd symud rhain wedyn o amgylch cymunedau’r Sir ble mae baw cŵn yn cael ei ystyried yn broblem yn y gobaith o gael dylanwad cadarnhaol. Hyd yn hyn mae’r deunyddiau wedi ei gweld yn Aberteifi, Llandysul, Llanon, Aberystwyth yn ogystal â Thalybont.

Mewn ymateb i’r sefyllfa a phryderon sydd wedi codi gan breswylwyr lleol yn ardal Tal-y-bont, mae’r Cynghorydd Sir leol dros Ceulan a Maesmawr, Cyng. Catrin MS Davies, wedi trefnu bod deunyddiau Eich Ci Eich Cyfrifoldeb wedi ei gosod mewn mannau amlwg o amgylch pentre’, yn enwedig lle mae pobl yn cerdded eu cŵn. 

Dywedodd Cynghorydd Catrin M.S. Davies: “Rydyn ni gyd yn gwerthfawrogi bod y rhelyw o berchnogion cŵn yn gwneud y peth iawn a diolch iddyn nhw am fod yn gyfrifol a chymdeithasol. Mae'n drueni bod yna leiafrif sydd ddim bob amser yn gwneud eu rhan ac felly yn golygu bod gyda ni lwybrau a phalmentydd brwnt a mae pob un o ni wedi cyrraedd adre a sylweddoli bod baw ci ar ein hesgidiau! Mae sawl un wedi dweud wrthai bod nhw wedi dod allan o'i cartre i ffeindio baw ci reit o flaen ei drws. Does dim esgus am y peth! Dyna neges Eich Ci Eich Cyfrifoldeb. Mae'r deunyddiau, stensiliau ar y ffordd ac arwyddion ar bolion o gwmpas y pentref, yn drawiadol iawn ac yn bendant yn creu argraff! Yr oll sydd ei angen nawr yw bod pobol yn dilyn y cyfarwyddiadau.”

Mae menter Eich Ci Eich Cyfrifoldeb yn rhan o Caru Ceredigion. Yr egwyddor sy’n tanategu Caru Ceredigion yw bod pawb yn medru chwarae ei rhan mewn ymateb i faterion sydd o gonsyrn neu’n bwysig i drigolion yn ein cymunedau. Mae hyn yn cynnwys pethau hawdd iawn all pawb ei wneud fel:

  • glanhau fyny ar ôl ei cŵn
  • peidio â gollwng ’sbwriel
  • lleihau a rheoli ei gwastraff
  • parcio’n positif
  • dathlu a bod yn ddiolchgar o ble ni’n byw gan gyfleu’r proffil cadarnhaol mae’r ardal yn ei haeddi.

Am ragor o wybodaeth am Caru Ceredigion ymwelwch ȃ: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/caru-ceredigion/ http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/caru-ceredigion/

 

15/11/2022