Ymwelodd Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon ag Amgueddfa Ceredigion a Chanolfan Alun R. Edwards yn Aberystwyth ar ddydd Iau, 15 Rhagfyr, 2022. Mi wnaeth Mary Ellis, Pennaeth y Tim Archifau a Llyfrgelloedd yn y Llywodraeth, ymuno a’r Dirprwy Weinidog ar yr ymweliad.

Ar ôl cyrraedd Aberystwyth, cyfarfu’r Dirprwy Weinidog â’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet: Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid. Croesawyd y Dirprwy Weinidog yn gynnes i Amgueddfa Ceredigion a chafodd ei chyflwyno i Carrie Canham, Curadur yr Amgueddfa a Non Davies, Rheolwr Corfforaethol dros Ddiwylliant.

Cafodd y Dirprwy Weinidog gyflwyniad i brosiect Perthyn sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae Perthyn, sydd yn ei gyfnod Datblygu ar hyn o bryd, yn brosiect uchelgeisiol sy’n ceisio sicrhau bod holl drigolion Ceredigion yn gallu dod o hyd i rywbeth yng nghasgliad yr amgueddfa sy’n atseinio eu hymdeimlad o hunaniaeth a gwerthoedd, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, credoau, rhywioldeb, gallu neu nodweddion eraill y maent yn uniaethu â nhw.

Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae wedi bod yn bleser ymweld ag Aberystwyth heddiw a gweld rhywfaint o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan staff ymroddedig Cyngor Sir Ceredigion – sy’n rhoi cyfle i bobl y dref. Cyfle i ddysgu, dathlu a choffau hanes, treftadaeth, diwylliant ac iaith yr ardal.”

Symudodd yr ymweliad ymlaen i Ganolfan Alun R.Edwards, Sgwâr y Frenhines, Aberystwyth, lle cyfarfu Arwyn Morris, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyswllt Cwsmer ac Emyr Lloyd, Llyfrgellydd Cynorthwyol â’r Gweinidog. Cafodd taith o amgylch y Llyfrgell sydd wedi’i lleoli ar lawr gwaelod a llawr cyntaf yr adeilad. Nododd Arwyn ac Emyr y gwahanol ffyrdd o weithio yn ystod y pandemig megis y gwasanaeth Clicio a Chasglu, a’r cynnydd mewn e-lyfrau.

Gwahoddodd Helen Palmer, Archifydd Sirol, Rheolwr Gwybodaeth a Chofnodion y Gweinidog i weld yr Uned Archifau. Gwelodd y Gweinidog rai o’r mapiau lliw hardd. Mae’r mapiau’n hynafol iawn ar y cyfan ond yn cynnwys dau fap newydd, a grëwyd gan bobl leol i goffáu eu teithiau cerdded yn ystod y Cyfnod Clo, ynghyd ag edrych ar rai ryseitiau o lyfr coginio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan deulu Webley Parry.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Pleser oedd croesawu’r Dirprwy Weinidog yma i Geredigion, a dangos iddi rhai o’r safleoedd celfyddydol gwerthfawr sydd gyda ni.”

Cyflwynodd y Cyngor gopi i’r Gweinidog o’r llyfryn “Edrychwch yn Agos : Arolygwyd Sir Aberteifi”, sydd ar gael am ddim i bawb ar gais ac sydd hefyd i’w weld ar wefan Archifdy Ceredigion.

19/12/2022