Ar ddydd Iau, 23 Mehefin, bu’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, ar ymweliad ag Aberystwyth i weld Byrddau Cyfathrebu’r sir. Dyma’r rhai cyntaf o’u math i’w lansio yng Nghymru. Yn 2021, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, gyllid oddi wrth Gronfa Datblygiad Plant Llywodraeth Cymru i greu’r byrddau.

Rhoddwyd croeso i’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid, a Delyth Raynsford, Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Hyrwyddwr Plant a’r Gymraeg.

Cafwyd cyflwyniad gan Mererid Jones a Libby Jeffries, Therapyddion Iaith a Lleferydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar ddatblygiad y Bwrdd Cyfathrebu. Sonion nhw am sut y cafodd y byrddau eu datblygu a’u hariannu, am leoliadau’r byrddau ledled Ceredigion ac ardal Hywel Dda ac am ddatblygiadau eraill sydd ar y gweill ledled Cymru a thu hwnt gan ddefnyddio’r syniad arloesol hwn.

Mae’r byrddau cyfathrebu yn cynnwys detholiad o'r geiriau a ddefnyddir amlaf mewn mannau chwarae, ac maen nhw’n cael eu paru â symbolau cysylltiedig. Mae pymtheg o fyrddau pob tywydd wedi’u gosod o amgylch parciau’r sir a hynny ar uchder sy'n addas i blant.

Dywedodd Delyth Raynsford, Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Eiriolwr dros Blant a’r Iaith Gymraeg: “Ar y cyd â’n cyd-weithwyr yng Nghyngor Sir Ceredigion, a diolch i’r cymorth gan Lywodraeth Cymru a’r gwaith caled gan ein Therapyddion Iaith a Lleferydd gwych, rwy’n falch iawn i groesawu’r Gweinidog i Aberystwyth i weld ein Byrddau Cyfathrebu a’r modd y maent yn helpu datblygiad iaith a lleferydd ymhlith ein poblogaeth iau.

“Hoffwn longyfarch Libby Jeffries a Mererid Jones yn benodol, sef Therapyddion Iaith a Lleferydd Clinigol Arweiniol, wrth iddynt dderbyn gwobr Rhoi Llais gan RCSLT ym mis Rhagfyr 2021, a hynny am y gwaith hwn sy’n cydnabod sut y mae therapi iaith a lleferydd yn trawsnewid bywydau ac yn dathlu gweithgaredd arloesol a’r cyflawniadau a wneir gan therapyddion ledled y Deyrnas Unedig.”

Gwahoddwyd y Dirprwy Weinidog Gwsanaethau Cymdeithasol i Ganolfan Integredig Plant yr Eos i weld yr adeilad newydd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac a agorodd ei drysau ddiwedd 2021. Cynhaliwyd sesiwn Siarad Babi yn ystod ei hymweliad a chafodd Julie Morgan AS ei chyflwyno i deuluoedd sy’n elwa o'r ddarpariaeth gyffredinol. Cafodd Julie Morgan AS gyfle i gwrdd â rhai o staff Dechrau’n Deg a bu’n cwrdd â chynrychiolwyr o’r Mudiad Meithrin sy’n cynnal Ffrindiau Bach yr Eos yn y Ganolfan.

Yn ddiweddarach yn y bore, aeth y Cynghorydd Catrin M S Davies a’r Dirprwy Weinidog Julie Morgan AS i ymweld â’r Angel Gyllyll ger y promenâd yn Aberystwyth lle mae yna Fwrdd Cyfathrebu arall. Cafodd y bwrdd hwn ei ddatblygu yn ddiweddar gan y gwasanaeth Iaith a Lleferydd a’r Tîm Anableddau Dysgu Oedolion er mwyn galluogi plant ac oedolion i fynegi eu hanghenion pan fyddant yn ymweld â'r promenâd. 

Cafodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, gyfle anffurfiol ac ymarferol i ddefnyddio’r Bwrdd Cyfathrebu gyda chymorth y staff. Dywedodd: “Roedd yn wych gweld y byrddau cyfathrebu arloesol hyn i helpu plant i gyfathrebu. Mae siarad, ymwneud a chwarae â phlant yn un o’r ffyrdd gorau y gallwn eu helpu i ffynnu a datblygu. Mae’r cynllun Siarad Gyda Fi yn amlygu ein hymrwymiad i gefnogi plant gyda’u sgiliau iaith a lleferydd, a bydd syniadau arloesol fel y rhain yn annog rhieni i siarad â’u plant. Rwy’n falch y bydd byrddau cyfathrebu tebyg yn cael eu cyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu ynghlwm â’r prosiect arbennig hwn. Dyma adnodd hynod o bwysig i hybu, hyrwyddo a datblygu sgiliau iaith a lleferydd ein pobl ifanc. Dyma enghraifft o gryfder cydweithio ledled gwahanol sefydliadau wrth i’r cyllid gan Dechrau’n Deg alluogi nifer o wasanaethau ddod at ei gilydd yn y Ganolfan Integredig. Mae’r cydweithio arbennig hwn yn golygu bod y Ganolfan yn llawer mwy nag adeilad yn unig.” 

24/06/2022