Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn profi problemau gweithredol yn Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Aberaeron a’r cyffiniau ledled Gorllewin Cymru sy'n effeithio ar y cyflenwad i gwsmeriaid yn yr ardal hon.
Mannau casglu dŵr
Mae Dŵr Cymru wedi sefydlu gorsafoedd casglu dŵr yn y lleoliadau canlynol:
- Maes Parcio'r Mart, Castell Newydd Emlyn, SA38 9BA
- Eglwys Sant Tysul, Llandysul, SA44 4QN
- Maes Parcio Fairfield (pwll nofio), Aberteifi, SA43 1EJ
- Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA
*Cofiwch fynd â chynhwysydd i gario'r dŵr. Bydd angen berwi’r dŵr.
Ysgolion ar gau
Mae rhai ysgolion ar draws y sir ar gau oherwydd diffyg cyflenwad dŵr, gan gynnwys:
- Ysgol Talgarreg
- Ysgol Bro Teifi
- Ysgol Uwchradd Aberaeron
- Ysgol Gynradd Aberteifi yn cau 1:30yp 21.12.2022
Bydd Canolfan Hamdden Aberaeron hefyd ar gau.
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda busnesau lleol a sefydliadau partner i ddod o hyd i ddŵr a'i ddosbarthu i'r bobl fwyaf bregus.
Dŵr Cymru
Gellir darllen mwy o wybodaeth ar wefan Dŵr Cymru.
Cyngor
Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yma
19/12/2022