Ar ddydd Iau 04 Awst, cafwyd cyfle i ddathlu llwyddiannau myfyrwyr Camu ‘Mlaen.

Prosiect a menter newydd arloesol yw Camu ‘Mlaen Ceredigion, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â Choleg Ceredigion a Gyrfa Cymru.

Uchafbwynt y seremoni oedd dathlu a chydnabod llwyddiant y garfan gyntaf sydd wedi cwblhau'r cwrs ddwy flynedd ac yn awr yn barod i gamu ymlaen i’r bennod nesaf yn eu bywyd.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Gydol Oes a Llesiant: “Mae hwn yn llwyddiant gwych i'n holl fyfyrwyr Camu ‘Mlaen. Mae'r prosiect wedi bod yn gymaint o lwyddiant dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Edrychwn ymlaen at ddatblygu Camu 'Mlaen ymhellach gan gynnig fwy o gyfleoedd i'n bobol ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol yma yng Ngheredigion, gan ddysgu ac ehangu o lwyddiant y ddwy flynedd gyntaf.”

Mae'r fenter yma’n rhoi cyfle i bobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol ôl-16 i aros a pharhau gyda’u haddysg o fewn Ceredigion, gan ddatblygu sgiliau allweddol wrth iddynt baratoi ar gyfer eu cyfnod nesaf mewn bywyd.

Un o brif amcanion y fenter yw galluogi ein pobl ifanc i gadw cysylltiad â datblygu eu sgiliau o fewn eu milltir sgwâr.

04/08/2022