Wrth edrych ymlaen at Ddiwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref eleni, gellir cyhoeddi mai Dysgwr y Flwyddyn Cynllun Cymraeg Gwaith Ceredigion yw Melisa Elek.

Tiwtor Sgiliau Hanfodol yw Melisa Elek ac mae’n gweithio i Hyfforddiant Ceredigion Training (HTC). Mae wedi bod yn astudio Cymraeg ar raglen Cymraeg Gwaith y Cyngor ers tair blynedd. Yn goron ar ei hymroddiad i’w hastudiaethau, llwyddodd Melisa yn ei harholiad Uwch yn haf 2022, gan ddangos ei bod bellach wir yn un o siaradwyr newydd y Gymraeg yng Ngheredigion.

Yn wreiddiol o Ganada a’i theulu’n hanu o Groatia, mae Melisa yn ddinesydd byd. Bu’n byw mewn sawl lle ar draws y byd cyn dod i Geredigion. Ymgartrefodd yma gan y teimlai bod y sir yn lle hyfryd i fagu teulu. Daeth yma’n benderfynol o ddysgu a defnyddio’r Gymraeg. Erbyn hyn, defnyddia’r Gymraeg yn rheolaidd yn ei bywyd personol a phroffesiynol. Siarada Gymraeg yn llawen â chymdogion a chyfeillion. Yn y gwaith, defnyddia’r Gymraeg yn gyson gyda’i chyd-weithwyr, ac â’r myfyrwyr yn ei dosbarthiadau. 

Wrth dderbyn gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cynllun Cymraeg Gwaith Ceredigion, talodd Melisa Elek deyrnged i’r gefnogaeth a dderbyniodd ar y rhaglen Cymraeg Gwaith a’r anogaeth a dderbyniodd oddi wrth (HCT): “Cefais i lawer o gefnogaeth gan Cymraeg Gwaith Cyngor Sir Ceredigion gyda sesiynau dwys wythnosol a llawer o help gan fy nhiwtor Huw Owen i fy mharatoi ar gyfer yr arholiad Uwch. Mae’n rhaid i fi ddiolch i fy rheolwyr yn Hyfforddiant Ceredigion Training hefyd am fy annog i fynychu'r sesiynau.”

Yn ystod y seremoni wobrwyo, dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet a Chadeirydd Pwyllgor Iaith y Cyngor: “Ond yw e'n bleser cael cydnabod ymdrech a llwyddiant Melisa. Wrth ei llongyfarch hi a rhannu'r newyddion da y mae hefyd yn gyfle i ni fel sir gyfan ymfalchïo ein bod yn denu ac yn cadw siaradwyr Cymraeg newydd. Hir parhaed hyn, a gobeithio y gallwn ni ddenu, annog a chynorthwyo llawer iawn mwy i gorlan y siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion.”

Llongyfarchiadau gwresog i Melisa Elek a dymuniadau gorau i bawb sy’n astudio rhaglen Cymraeg Gwaith y Cyngor, ac yn enwedig i’r rheiny sydd wedi’u hysbrydoli i ddechrau astudio eleni, wrth inni gydweithio gyda’n gilydd er mwyn taro’r targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Yng ngeiriau Melisa Elek ei hun: “Rhowch gynnig arni, a pheidiwch â rhoi'r gorau iddi. Mae'n sicr werth yr ymdrech, ac mae dysgu Cymraeg yn bendant yn cyfoethogi’r profiad o fyw a gweithio yng Ngheredigion ac yng Nghymru”.

Trefnir rhaglen Cymraeg Gwaith Cyngor Ceredigion ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Wedi’i lunio a’i ddarparu gan Huw Owen, y Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith, a Thîm Dysgu a Datblygu’r Cyngor, mae’r rhaglen wedi rhedeg ers 5 mlynedd bellach. Darpara hyfforddiant i staff o bob cwr o’r Cyngor ar bob lefel o ddysgu Cymraeg. Yn ogystal mae’r rhaglen yn darparu cyfleoedd dysgu anffurfiol i’r staff, fel Clwb Cinio a digwyddiadau diwylliannol, er mwyn rhoi profiad cyflawn iddynt o fyd y Gymraeg yng Ngheredigion.

Ewch ati i ddathlu’r Gymraeg ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref. Rhowch gynnig arni.

10/10/2022