Yn dilyn marwolaeth Y Frenhines Elizabeth II, bydd Cyhoeddiad am esgyniad Brenin newydd yn cael ei ddarllen ar ddydd Sul 11 Medi 2022 am 12:30pm.

DIWEDDARIAD 11.09.2022 13:30. Gwyliwch y Cyhoeddiad yma: https://youtu.be/zZhiw8c2pD8

Darllenir y Cyhoeddiad gan Rowland Rees-Evans, Uchel Siryf Dyfed yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron. Bydd yr Arglwydd Raglaw, Sara Edwards yn bresennol. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu.

Bydd Llyfrau Cydymdeimlo yn cael eu hagor yn y lleoliadau canlynol o ddydd Llun, 12 Medi, 2022:

  • Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron
  • Neuadd y Sir, Heol y Farchnad, Aberaeron (ar gau rhwng 1 a 2pm)
  • Canolfan Alun R. Edwards, Morfa Mawr, Aberystwyth
  • Y Llyfrgell, Llandysul
  • Y Llyfrgell, Llanbedr Pont Steffan
  • Y Llyfrgell, Aberteifi
  • Neuadd Goffa, Cei Newydd (ar agor dydd Gwener 16 Medi o 9:00am i 12:00pm)
  • Canolfan y Dyffryn, Aberporth (ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener o 10:00am i 1:00pm, ac ar ddydd Gwener 16 Medi rhwng 5:00pm a 7:00pm)
  • Hwb Gymuned Borth (ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener o 9:30am i 3:00pm)

Bydd y Llyfrau Cydymdeimlo ar agor o 9 o’r gloch y bore tan 5 yr hwyr o ddydd Llun i ddydd Iau a o 9 o’r gloch y bore tan 4:30 yr hwyr ar ddydd Gwener yn Neuadd Cyngor Ceredigion a Neuadd y Sir Aberaeron. Mae'r oriau agor ar gyfer llyfrgelloedd i'w gweld ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/twristiaeth-a-hamdden/llyfrgell-ceredigion/lleoliadau-canghennau/

Byddant yn aros ar agor tan y diwrnod ar ôl yr angladd. Gellir gweld Llyfr Cydymdeimlad y Teulu Brenhinol yma: www.royal.uk/

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu gohirio yn ystod y cyfnod galaru.

09/09/2022