O fis Mehefin ymlaen, bydd rhai aelodau o staff swyddfa, sydd wedi bod yn gweithio o bell yn ystod y pandemig, yn dychwelyd i swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion yn Aberystwyth ac Aberaeron yn dilyn strategaeth gweithio hybrid a luniwyd i ategu manteision gweithio gartref wrth ddarparu rhai gwasanaethau wyneb yn wyneb yn fwy effeithlon.

Mae’r cynllun peilot yn cael ei gyflwyno ar gyfer staff sy’n gallu gweithio’r un mor effeithiol o bell ag yn y gweithle ond, oherwydd rhai cyfrifoldebau penodol/gofynion cleientiaid, a fydd yn elwa o fynd i’r gweithle ar adegau penodol yn ystod yr wythnos. Un o amcanion y cynllun peilot fydd cynyddu mannau ar gyfer y cyhoedd sy’n groesawgar ac yn hygyrch i’n cwsmeriaid.

Lle bo modd, mae llawer o weithlu’r DU wedi gweithio gartref ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020. Daeth yr hyn a oedd yn her i lawer ar y dechrau, oherwydd gofynion technegol a chreu gofod swyddfa yn y cartref, yn ffordd gadarnhaol o weithio, gyda llawer o fanteision yn deillio o’r ffordd hyblyg hon o weithio, megis;
• Llai o draffig ar ein ffyrdd, gan leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
• Llai o amser yn cael ei dreulio yn cymudo, gan arwain at well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith; mewn arolwg ymgysylltu â staff, dywedodd 80% o staff Cyngor Sir Ceredigion fod gweithio o bell wedi helpu i wella eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
• Gwell effeithlonrwydd yn y gwaith; dim angen teithio rhwng cyfarfodydd, gan arwain at fwy o gydweithio â sefydliadau partner.
• Llai o gostau teithio.

Mae Clic, gwasanaeth Cyswllt Cwsmeriaid y Cyngor, wedi addasu yn ystod y pandemig i sicrhau gwasanaeth parhaus ar-lein a thros y ffôn er gwaethaf gweithio o bell. Pan oedd y cyfnod clo ar ei anterth, fe wnaeth y ganolfan gyswllt ymdrin ag 85,000 o alwadau a 13,000 o negeseuon e-bost. O ganlyniad i’w effeithlonrwydd, bydd y Gwasanaeth Cyswllt Cwsmeriaid yn aros ar-lein a thros y ffôn, a bydd desgiau’r dderbynfa yng Nghanolfan Rheidol a Phenmorfa yn aros ar gau. Bydd gwasanaethau wyneb yn wyneb priodol eraill yn cael eu cyflwyno’n raddol yn ystod y cynllun peilot.

Gwaith ar y gweill fydd y cynllun peilot, a bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd gyda’r nod o redeg am 18 mis i ddechrau.

 

24/05/2022