Mae’r cynllun Adfywio Trefi Gwledig sy’n cael ei redeg gan raglen LEADER Cynnal y Cardi wedi bod yn cefnogi Cyngor Tref Tregaron gyda chyfres o dechnegau marchnata a gosodiadau i hyrwyddo a gwella Tregaron wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad hanesyddol a diwylliannol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022.

Bu’r gwaith hwn yn waddol i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn dilyn y mewnlifiad o filoedd o bobl i’r dref yn ddyddiol drwy gydol yr ŵyl ac wedi hynny i’r cymunedau gwledig cyfagos a safleoedd o ddiddordeb lleol.

Roedd amrywiaeth eang o osodiadau i’w gweld yn Nhregaron yn ystod yr Eisteddfod yn dilyn gwaith dylunio brandio’r dref, a oedd yn cynnwys cadair blygu enfawr, fflagiau polion lamp, baneri, planwyr blodau haenog, meinciau a byrddau picnic, gwelliannau cadwraethol y cerflyn, ac arwydd blaenllaw o Dregaron yn edrych dros y Maes. Bydd llawer o'r nodweddion hyn yn parhau yn eu lle ar gyfer misoedd yr haf a gall y dref eu defnyddio yn y dyfodol. Mae gwaith datblygu pellach ar y gweill i gynnal a gwella atyniad a bywiogrwydd y dref.

Mae’r cynllun Adfywio Trefi Gwledig wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Gwnaed ymdrech tîm gwych gan Gyngor Tref Tregaron, cyflenwyr, a nifer o wirfoddolwyr i sicrhau bod y gosodiadau yn eu lle ar gyfer yr Eisteddfod. Cyfrannodd hyn oll at ŵyl lwyddiannus, a oedd yn arddangos y gorau o Geredigion. Bydd ymdrech barhaus gan aelodau gweithgar o'r gymuned yn cynnal y gwelliannau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r cynllun Adfywio Trefi Gwledig yn parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr mewn chwe thref wledig yng Ngheredigion ac mae amrywiaeth o brosiectau’n dod i’r amlwg i gefnogi uchelgais y Cyngor i greu lleoedd ffyniannus, sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n gydnerth. Mae syniadau eraill yn cynnwys peilot ar gymhwyso technoleg ‘Rhyngrwyd o Bethau’ yn ardal Aberteifi, ac Arolwg Trafnidiaeth yn Aberaeron.”

Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn sy’n arddangos y dref yn helpu i ddenu twristiaeth yn ôl ac yn creu tref fywiog i bobl weithio, byw ac ymweld â hi. I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn a gwybodaeth ehangach am eich rhaglen LEADER leol ewch i'n gwefan: www.cynnalycardi.org.uk/leader-cy/adfywio-trefi-gwledig-ceredigion/

11/08/2022