Mae Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Cynnal y Cardi yn falch o gymeradwyo’r ceisiadau cyntaf fel rhan o Gronfa Grant LEADER i gefnogi gweithgarwch LEADER ar raddfa fach yng Ngheredigion.

Yn ei ychydig fisoedd cyntaf o fod ar agor, mae’r GGLl wedi cefnogi digwyddiadau cymunedol lleol gan dreialu dulliau newydd o annog cyn-ymwelwyr yn ôl i ddigwyddiadau, tra’n creu cyfleoedd i ddenu ymwelwyr newydd a chefnogi sefydliadau i fuddsoddi mewn technoleg i hwyluso cyfarfodydd hybrid sy’n galluogi unigolion i ailgysylltu mewn gweithgaredd cymunedol.

Amlygodd Emmanuel Kincaid o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi hyn: “Nod prosiect Cynnal Llanddewi Brefi yw adfywio gweithgaredd cymunedol. Fel unig ymddiriedolwr Elusen Neuadd y Pentref, cynhaliodd Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi gyfarfodydd gyda defnyddwyr y Neuadd i geisio canfod atebion i’r heriau a wynebwyd ganddynt yn dilyn aflonyddwch a chyfyngiadau yn ystod y pandemig COVID, ac archwilio ffyrdd o gefnogi dychweliad i weithgareddau grŵp.

Bydd system arddangos bwrdd gwyn rhyngweithiol, ynghyd â chamera fideo-gynadledda/meicroffon/system siaradwr a ariennir gan Cynnal y Cardi yn darparu cyfleuster cyfrifiadura sgrin gyffwrdd/hybrid ar wahân, a bydd yn galluogi defnyddwyr i gysylltu eu dyfeisiau eu hunain i rannu a chael mynediad at gynnwys.

Bydd sesiynau ieuenctid wythnosol yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr, yn agored i unrhyw un 11-19 oed ac yn cynnwys mynediad am ddim i pŵl/tennis bwrdd/snwcer a WiFi, cyfleusterau te/coffi. Bydd y bwrdd Smart rhyngweithiol ar gael i ddarparu cerddoriaeth a ffrydio neu wasanaethau cyfrifiadurol.”

Bydd y GGLl hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru i gefnogi cydweithio gyda chymunedau ar draws Ceredigion i greu, dathlu, dysgu a rhannu syniadau mewn amgylchedd cynhwysol. Bydd yn gyfle i gydnabod a dathlu cysylltiad cymuned leol Ceredigion â’r Brifysgol a’r Eisteddfod yn ogystal â meithrin cydweithio newydd i’r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio: “Mae’r cynllun grant newydd hwn wedi rhoi cyfle i ni gefnogi sefydliadau lleol sy’n anelu at adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn drwy ail-gysylltu aelodau’r gymuned i mewn i weithgaredd cymunedol. Wrth inni fynd i’r afael â heriau’r ddwy flynedd ddiwethaf, gadewch i ni adeiladu ar y cyfleoedd yn dilyn COVID-19. Fe’ch anogaf i fanteisio’n llawn ar y cyfle hwn.”

Os oes gennych unrhyw syniadau gallwch eu trafod gyda'r tîm. Croesewir cyflwyniadau yn Gymraeg neu Saesneg. Cysylltwch â’r tîm drwy e-bost ar cynnalycardi@ceredigion.gov.uk neu ewch i www.cynnalycardi.org.uk am fwy o wybodaeth.

Mae Cronfa Grant LEADER Cynnal y Cardi wedi ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion, a gefnogir drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

22/06/2022