Cyhoeddwyd bod Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru wedi penodi swyddog arweiniol strategol.

Mae Anwen Orrells wedi'i phenodi i'r rôl a bydd yn arwain ac yn rheoli Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru.

Mae cynghorau Ceredigion a Phowys yw rhan o Bartneriaeth Addysg Canolbarth Cymru, sydd wedi ffurfio dull cyfunol tuag at rai agweddau o wasanaethau gwella ysgolion er mwyn cefnogi ysgolion ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Prif Swyddogion Addysg Ceredigion a Phowys, Meinir Ebbsworth a Lynette Lovell: "Gweledigaeth Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n dysgwyr, beth bynnag fo'u cefndir, drwy gefnogi ymarferwyr ac ysgolion i wireddu'r pedwar amcan galluogi 'Addysg yng Nghymru:  Cenhadaeth ein Cenedl'.

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi penodi Anwen i'r rôl hollbwysig hon. Credwn fod ganddi'r holl rinweddau i weithredu cyfeiriad strategol y bartneriaeth a chydlynu dull integredig dwyieithog ar draws y rhanbarth a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n dysgwyr."

Cafodd Anwen ei haddysgu yn Ysgol Gynradd Trefeglwys ac Ysgol Uwchradd Llanidloes, a dechreuodd ei gyrfa dysgu fel athrawes Ddaearyddiaeth yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ar ôl ennill gradd mewn Daearyddiaeth ac yna Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwchradd o Brifysgol Aberystwyth.

Yn ddiweddarach symudodd Anwen i Ysgol Uwchradd Caereinion lle bu'n gweithio am 20 mlynedd gan weithio fel Pennaeth Daearyddiaeth a Phennaeth Cynorthwyol cyn ymuno â Chyngor Sir Powys fel Ymgynghorydd Gwella Ysgolion yn 2016.

Bydd Anwen, sydd hefyd yn Arolygydd Estyn, yn gadael ei rôl bresennol fel Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Addysg i ymuno â'r bartneriaeth.

"Mae hwn yn gyfle cyffrous ac rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi i'r rôl hon," meddai Anwen.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag uwch weithwyr addysg proffesiynol ar draws y ddwy sir wrth i ni geisio cefnogi ysgolion i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn barhaus fel eu bod yn rhoi'r dechrau gorau posibl i ddysgwyr, a’r hyn maen nhw’n ei haeddu."

19/12/2022