Yn ystod 2020 a 2021, cynhaliodd Cyngor Sir Ceredigion ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn rhan o’r broses o adolygu’r Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yng Ngheredigion.

Edrychodd yr adolygiad hwn ar ddiweddaru Map Llwybrau Presennol Ceredigion i amlygu llwybrau teithio llesol sydd wedi cael eu harchwilio i fodloni safonau Canllawiau Dylunio Llywodraeth Cymru, ond hefyd i ddrafftio Map Llwybrau’r Dyfodol newydd a fyddai’n cynnwys llwybrau teithio llesol arfaethedig neu ddyheadol. Yr enw blaenorol ar y mapiau hyn oedd y ‘Map Rhwydwaith Integredig’ ac mae eu hadolygu o bryd i'w gilydd yn rhan o’r dyletswyddau statudol y mae’n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru eu cyflawni yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Cyflwynwyd fersiwn ddrafft o’r Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol i Llywodraeth Cymru ddiwedd mis Mawrth 2022 a chymeradwyodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd y mapiau ar 03 Awst 2022 yn barod i'w cyhoeddi.

Gellir dod o hyd i'r llwybrau a gyhoeddwyd trwy ddilyn y ddolen isod gan Llywodraeth Cymru a leolir ar safle DataMapWales: Mapiau Teithio Llesol 

Mae Canllaw Defnyddwyr ar gael ar y wefan (trwy’r ddolen uchod) neu ewch i weld y map trwy glicio ar y botwm gwyrdd ‘Dangos yn y Syllwr Mapiau’ ar ochr dde’r dudalen. Mae’r map yn rhyngweithiol ac mae rhagor o wybodaeth ar gael wrth i chi glosio neu glicio ar y llwybrau neu’r cyfleusterau.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Mae Map Llwybrau’r Dyfodol yn cynnwys llawer o lwybrau teithio llesol dyheadol newydd yn dilyn adborth gan y cyhoedd, ac mae hefyd yn cyflwyno amcanion hirdymor Cyngor Sir Ceredigion i wneud teithiau cerdded a beicio yn ddewis haws a saffach.”

“Mae Swyddogion y Gwasanaethau Priffyrdd yn gweithio ar ddatblygu sawl cynllun ar hyn o bryd, ac mae rhai o’r rhain mewn partneriaeth â swyddogion Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r A487 a’r A44 i’w datblygu ar gyfer eu hadeiladu yn y flwyddyn neu ddwy nesaf. Rydym am helpu i gwtogi ar y defnydd o gerbydau yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac mae teithio llesol hefyd yn chwarae rhan bwysig yn iechyd a lles corfforol a meddyliol ein trigolion. Fel rhywun sy’n mwynhau cerdded a beicio ar hyd a lled Ceredigion, mae’n dda gweld llwybrau teithio llesol yn cael eu datblygu yn y sir ac mae hyn yn dyst i waith caled staff awdurdodau lleol sy’n gwireddu’r syniadau hyn.”

Mae rhagor o wybodaeth am deithio llesol yng Ngheredigion ar gael ar wefan y Cyngor: Teithio Llesol Ceredigion 

01/12/2022