Yn dilyn llawer o waith y tu ôl i’r llenni a gwaith paratoi gan Wasanaethau Ieuenctid a Chymunedol Ceredigion yn ystod y misoedd diwethaf, rydym yn falch o gyhoeddi’r seremoni agoriadol swyddogol ar gyfer ‘Y FAN’.

Agorwyd ‘Y FAN’ yn swyddogol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron ym Mhentref Ceredigion ar 03 Awst 2022.

Mae Gavin Witte, Cydlynydd Gwaith Ieuenctid ac Atal Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion yn egluro mwy am y prosiect: “Prosiect cydweithredol a arweinir gan bobl ifanc ac a ariennir gan Gronfa’r Loteri Genedlaethol yw ‘Y FAN’, a’i nod yw cynnig darpariaeth symudol i bentrefi, trefi ac ardaloedd gwledig anghysbell yng Ngheredigion. Y nod yw darparu rhaglenni a gweithgareddau pwrpasol i ymgysylltu â phobl ifanc, yn enwedig y rheini sy’n ddifreintiedig, sy’n agored i niwed ac sydd angen cymorth.

“Yn syml iawn, Vauxhall Movano wedi’i addasu yw ‘Y FAN’, sydd wedi cael ei adnewyddu’n sylweddol. Mae’r cefn wedi cael ei addasu i gynnwys lifft hygyrch, mannau eistedd cyfforddus, teledu sgrin lydan, consol gemau a Wi-Fi sy’n galluogi pobl ifanc i brofi holl nodweddion a phrofiadau clwb ieuenctid nodweddiadol.”

Mae’r tu allan i’r cerbyd yn llachar ac yn drawiadol ac yn cynnwys llawer o dirnodau adnabyddus Ceredigion, i gyd wedi’u dylunio a’u paentio gan bobl ifanc – ynghyd â’r enw ei hun. Defnyddiwyd ‘Y FAN’ fel enw anffurfiol gan y bobl ifanc a oedd yn ymwneud â’r prosiect, a phenderfynwyd rhoi’r teitl hwnnw iddo’n swyddogol er mwyn ei gadw’n syml, ond yn gofiadwy. 

Y Cynghorydd Alun Williams yw Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer gwasanaethau Gydol Oes a Lles. Dywedodd: “Mae’n wych gweld y prosiect hwn yn datblygu ac yn dechrau ymgysylltu â llawer o wahanol gymunedau yng Ngheredigion. Mae’n hanfodol ein bod yn gallu cyrraedd y rhai sydd â’r angen mwyaf am gymorth ac, wrth gwrs, darparu dull rhagweithiol o ddod â chynlluniau newydd i gymunedau i helpu unigolion i gysylltu â’i gilydd. Bydd y cerbyd hwn yn sicr yn cael ei groesawu’n fawr a bydd yn allweddol wrth ddarparu dull gydol oes o feithrin cydnerthedd cymunedol a lles.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i gael gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i’n tudalennau ar Facebook, Instagram a Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar PorthCymorthCynnar@ceredigion.gov.uk.  

03/08/2022