Mae cyffro Cwpan y Byd yn cynyddu yng Ngheredigion gyda gweithgareddau lu ar draws y sir.

Bydd Cymru yn teithio i Qatar ym mis Tachwedd ar gyfer Cwpan y Byd 2022, a hynny 64 mlynedd ers iddyn nhw gyrraedd y gystadleuaeth ddiwethaf.

Mae pecyn addysg wedi cael ei greu ar gyfer ysgolion, sy’n cynnwys pob math o wahanol weithgareddau trawsgwricwlaidd yn ymwneud â phêl-droed. Mae ambell her a chystadleuaeth hefyd!

Mae holl Ysgolion Cynradd Ceredigion yn cydweithio â’r Prifardd Ceri Wyn Jones i greu cerdd ar y cyd. Y syniad yw bod y bêl (cwpled) yn cael ei phasio o un ysgol i’r llall gan droi’r cyfan mewn i fideo arbennig. Aneirin Karadog yw’r bardd sy’n ymgymryd â’r dasg o greu cerdd gydag Ysgolion Uwchradd Ceredigion, a bydd y gerdd orffenedig yn cael ei throi’n ddarlun gan Lizzie Spikes. Mae’r ysgolion hefyd yn brysur yn ymarfer cân enwog Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’, gan greu un fideo pob lwc i dîm pêl-droed Cymru i ddangos ein cefnogaeth.

Ar ddiwrnod cenedlaethol pêl-droed Cymru ar 25 Tachwedd, bydd holl ysgolion Ceredigion yn cefnogi’r gêm o’u hysgolion. Byddant yn gwylio Cymru yn chwarae yn erbyn Iran, addurno'r ysgol, ac yn mwynhau gweithgareddau pêl-droed.

I goroni’r cyfan, bydd cyfweliad gyda aelod o dîm Pêl-droed Cymru, Rhys Norrington Davies. Mae Rhys o Dalybont yn wreiddiol ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Comins Coch a Ysgol Penglais.

Mae Cered fel rhan o rwydwaith y Mentrau Iaith, wedi lansio cystadleuaeth creu dyluniad ar gyfer het bwced. Byddant hefyd yn creu murlun ac yn cynnal sesiynau codi canu gan ddefnyddio llyfryn o ganeuon pêl-droed Cymraeg sydd wedi ei greu.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau ymlaen yn Llyfrgelloedd Ceredigion yn arwain at y gystadleuaeth fawr gan gynnwys sialens ddarllen arbennig i blant. Cofiwch ddilyn Llyfrgell Ceredigion ar Facebook i gael y diweddaraf.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor: “Braf yw gweld brwdfrydedd a bwrlwm y sir wrth gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd. Yn gefnogwyr y Wal Goch, mae trigolion Ceredigion yn ymfalchïo yn eu llwyddiant i gyrraedd Qatar ac yn cefnogi eu taith sy’n ysbrydoledig. Dyma gyfle hefyd i hybu’r Gymraeg a Chymru drwy amrywiaeth o weithgareddau pêl-droed.”

Cynhelir Cwpan y Byd yn Qatar eleni rhwng 21 Tachwedd ac 18 Rhagfyr, gyda gemau grŵp Cymru'n cael eu chwarae ar 21, 25 a 29 Tachwedd.

19/10/2022