Enillodd Ceredigion dair gwobr mewn seremoni wobrwyo yn ddiweddar.

Cynhaliwyd Gwobrau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru 2022 yn yr Halliwell yng Nghaerfyrddin ar 06 Rhagfyr. Roedd y gwobrau yn gyfle i gydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhanbarth Gorllewin Cymru. Gwahoddwyd enwebiadau gan bawb sy’n rhan o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn rhanbarth Gorllewin Cymru, gan gynnwys timau, grwpiau neu sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu gydweithredol.

Enillodd Lucy Barratt, Swyddog Iechyd a Lles Cyflogeion y wobr ‘Cefnogi a buddsoddi yn llesiant y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol – tîm neu fenter sydd wedi cael effaith sylweddol ar les’. Cyflwynwyd y wobr i Lucy gan y Cynghorydd Jane Tremlett o Sir Gaerfyrddin.

Enillodd y Tîm Gofal a Galluogi Integredig wedi’i Dargedu y wobr ‘Gofal Integredig’. Cyflwynwyd y wobr i Dawn James, Rheolwr y Tîm a Liz Davies, un o’r Arweinwyr Tîm, gan Rhian Matthews.

Cafodd Camu ’Mlaen ganmoliaeth uchel yng ngwobr ‘Trawsnewid Trwy Arloesi’. Roedd Camu ‘Mlaen yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Gyrfa Cymru. Y swyddogion oedd Nerys Lewis, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Uniongyrchol, Rebecca James Cydlynydd Prosiect Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Emma Clark, Rheolwr Corfforaethol Cefnogaeth Estynedig.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet dros Bobl a Threfniadaeth: “Llongyfarchiadau i’n staff yng Ngheredigion ar ddod i’r brig yng Ngwobrau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith y mae ein timau yn ei wneud yn ein sir, lle maent yn mynd gam ymhellach i bobl Ceredigion. Diolch."

Dywedodd Judith Hardisty, Is-Gadeirydd BIP Hywel Dda a gwesteiwr y seremoni: “Dyma ein gwobrau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol cyntaf ac mae’n rhoi cyfle i ni ddiolch i staff am eu gwaith anhygoel ac i ddathlu eu llwyddiannau. Mae'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gweithio ar sail cydweithredu, arloesi, integreiddio a chydgynhyrchu. Rwy’n falch iawn bod ein gwobrau’n cydnabod llwyddiannau eithriadol yn y meysydd hyn yn ogystal â chefnogi ein gweithlu.”

Rhoddodd Gwobrau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru 2022 y gydnabyddiaeth a’r ganmoliaeth i’r rhai sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol y maent yn eu haeddu tra’n cydnabod y gwaith rhagorol a wneir ledled Gorllewin Cymru.

Llun isod: Tîm Gofal a Galluogi Integredig wedi’i Dargedu gyda’u Gwobr a Camu ‘Mlaen gyda thystysgrif Canmoliaeth Uchel

Llun uchod: Lucy Barratt, Swyddog Iechyd a Lles Cyflogeion gyda’r wobr

14/12/2022