Ar 17 Mehefin 2022, cynhaliwyd Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru yng Nghaerdydd. Enillodd Cyngor Sir Ceredigion ddwy wobr am eu Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni.

Cynhaliwyd y gwobrau hyn i gydnabod gwaith rhagorol y sector arbed ynni yng Nghymru. Diben cynlluniau arbed ynni sydd ar waith ledled Cymru yw helpu perchnogion tai i leihau eu biliau ynni, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn rhedeg y Cynllun Hyblygrwydd ECO a Chynllun Cartrefi Clyd Ceredigion ers nifer o flynyddoedd. Fel rhan o’r cynlluniau hyn, mae nifer o fesurau inswleiddio a systemau gwresogi wedi’u cyflwyno mewn amrywiol adeiladau i wella eu heffeithlonrwydd o ran ynni. Gan fod mwy o bwyslais wedi bod yn ddiweddar ar systemau gwresogi adnewyddadwy, mae llawer o waith y Cyngor bellach yn ymwneud â gosod pympiau gwres ffynhonnell aer.

Enillodd Cyngor y brif wobr yng nghategori Cyngor Rhanbarthol neu Awdurdod Lleol y Flwyddyn lle’r oedd un Cyngor eithriadol ym mhob un o 11 rhanbarth y Deyrnas Unedig yn cael eu cydnabod am ddangos gwir ymrwymiad tuag at hybu effeithlonrwydd ynni yn eu rhanbarth. Noddwyd y wobr hon gan Improveasy.

Ar gyfer y wobr hon, mae'r beirniaid yn edrych ar yr effaith y mae eu gwaith wedi'i chael yn y gymuned leol, yr hyn sydd gan eu cwsmeriaid a'u cymuned leol i'w ddweud am y cyngor, pa lefel o arbenigedd sydd gan y cyngor o fewn ei dimau ei hun a pha flaenoriaeth y mae'r cyngor yn ei rhoi i fynd i'r afael â thlodi tanwydd o fewn ei gynlluniau presennol.

Hefyd, enillodd y Cyngor y wobr Sefydliad Rhanbarthol y Flwyddyn am Gefnogi Cwsmeriaid Bregus gan ddangos gwir ymrwymiad tuag at wella bywydau pobl fregus yr ardal. Noddwyd y wobr hon gan Consumer Energy Solutions.

Y Cynghorydd Matthew Vaux, yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Tai. Dywedodd: "Hoffwn longyfarch y tîm Tai am eu gwaith caled a'u llwyddiant yn y Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol eleni. Gyda'r cynnydd presennol mewn costau tanwydd a'r cynnydd mewn costau byw, mae hyn yn gyflawniad gwych i dîm tai'r Cyngor o ran dangos eu bod yn helpu ein trigolion i arbed ynni a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.”

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Gynlluniau Effeithlonrwydd Ynni ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/gwybodaeth-a-chymorth-ariannol/cynlluniau-effeithlonrwydd-ynni/

28/06/2022