Heddiw, ar 30 Mehefin 2022, ymwelodd Taith Baton y Frenhines â Cheredigion yn rhan o’i siwrne drwy Gymru a Lloegr cyn Gemau’r Gymanwlad 2022 yn Birmingham fis Gorffennaf eleni.

Croesawyd Baton y Frenhines a Thîm Cymru gan westeion pwysig a disgyblion ysgol lleol yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth. Cynhaliwyd dadl ar Newid yn yr Hinsawdd lle cafodd y plant gyfle i ofyn cwestiynau i swyddogion ac aelodau etholedig y Cyngor.

Parhaodd Taith Baton y Frenhines ar ei siwrne, lle cafodd y baton ei basio rhwng Cludwyr y Baton, i Glwb Bowlio Aberystwyth ac yna ymlaen i Reilffordd Cwm Rheidol.

Cymerodd cyfanswm o 18 o Gludwyr Baton ran yng Ngheredigion; 16 o athletwyr sydd wedi ennill anrhydeddau rhyngwladol yn eu dewis gampau a dau aelod o’r gymuned sydd wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniad i’r gymuned. Mae rhagor o wybodaeth am Gludwyr y Baton ar gael ar yr adran Newyddion ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Y Cynghorydd Bryan Davies yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Mae’n wych ein bod wedi gallu rhoi croeso mor gynnes i Daith Baton y Frenhines yma yng Ngheredigion. Mae wedi bod yn gyfle i ddathlu rhai o’n hathletwyr lleol fel Cludwyr y Baton, rhoi cydnabyddiaeth i wirfoddolwyr sydd wedi cael effaith gadarnhaol yn y gymuned, a hefyd arddangos ein Sir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”

Aeth Taith Baton y Frenhines a Thîm Cymru ymlaen i Langrannog, lle bydd y baton yn aros dros nos cyn symud ymlaen i Sir Benfro ddydd Gwener 1 Gorffennaf.

I gael rhagor o wybodaeth am lwybr Taith Baton y Frenhines trwy Gymru, ewch i: https://teamwales.cymru/cy/events/queens-baton-relay/

30/06/2022