Wrth wraidd digwyddiad a gynhaliwyd ar gyfer plant gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn rhan o weithgareddau a rhaglen Wythnos Diogelu Genedlaethol 2022, yr oedd annog gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr ym maes diogelu i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a gwrando arnynt.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar 18 Tachwedd yn stadiwm Parc y Scarlets yn Llanelli, ac yn bresennol yr oedd gweithwyr proffesiynol sy'n chwarae rôl allweddol wrth ddiogelu plant, yn cynnwys swyddogion yr heddlu, nyrsys, staff gofal cymdeithasol a gweithwyr addysg proffesiynol, yn ogystal â phlant a phobl ifanc o bob cwr o'r rhanbarth, sef Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys.

Cafodd adnodd hyfforddi ac animeiddiad ar ddiogelu, wedi'u datblygu a'u creu gan Grŵp Iau y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, CADW, eu lansio'n swyddogol yn rhan o'r digwyddiad, a hynny gan Gomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes.

Mae'r adnodd hyfforddi, a gynlluniwyd i'w ddefnyddio ar gyfer pob hyfforddiant amlasiantaethol gorfodol ledled y rhanbarth, yn cyflwyno negeseuon pwerus i weithwyr proffesiynol ynghylch yr hyn sy'n bwysig i blant a phobl ifanc pan fydd angen i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ymyrryd yn eu bywydau, o bosibl, i'w cefnogi a'u hamddiffyn.

Dywedodd Jan Coles, Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gaerfyrddin, a fu'n arwain ac yn hwyluso'r digwyddiad ar ran Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae'n rymusol ac yn eithriadol o ysbrydoledig i'r plant a'r bobl ifanc o bob cwr o'n rhanbarth weld cynifer o weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr ym maes diogelu yn bresennol i gefnogi'r gwaith gwych y maent wedi'i wneud.

“Mae'r negeseuon yn yr animeiddiad yn bwerus iawn, a byddwn ni yn y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn symud hyn yn ei flaen ac yn sicrhau bod y negeseuon hynny’n cael eu cynnwys mewn ymarfer diogelu craidd.”

Gellir gweld yr adnodd, ynghyd â gwybodaeth a deunyddiau atodol, trwy ymweld â www.cysur.wales/training/animation-training-resource/

 

 

30/11/2022