Ar ddydd Mawrth 02 Awst 2022 ym Mhabell Cyngor Sir Ceredigion ar faes yr Eisteddfod byddwn yn cofio am y Llyfrgellydd Alun R. Edwards.

Magwyd Alun R.Edwards yn Llanio, ger Tregaron, Ceredigion a bu'n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru pan oedd yn ifanc.

Fe'i hapwyntiwyd yn llyfrgellydd dros Sir Aberteifi yn Ionawr 1950. Dros y chwarter canrif a rhagor nesaf, chwyldrôdd y gwasanaethau Llyfrgell yma yng Ngheredigion ac yn wir y diwydiant llyfrau yng Nghymru gyfan.

Ymhlith y cynlluniau a gafodd eu gwireddu ganddo yr oedd ehangu’r gwasanaeth llyfrgelloedd teithiol, sefydlu’r Coleg Llyfrgellwyr yn Aberystwyth, cynllun pryniant llyfrau y siroedd, Cyngor Llyfrau Cymru a sefydlu grwpiau darllen a thrafod.

Yn dilyn adrefnu llywodraeth leol fe'i penodwyd yn Llyfrgellydd Dyfed yn 1950. Bu’n gweithio fel Llyfrgellydd y Sir am 30 mlynedd nes iddo ymddeol yn 1980.

Enwyd yr adeilad lle lleolir Llyfrgell Tref Aberystwyth ar Faes y Frenhines, Aberystwyth yn Ganolfan Alun R. Edwards er cof a pharch at waith breiniarol Alun.

Dewch i ymuno â Rheinallt Llwyd am ddau o’r gloch ddydd Mawrth 02 Awst i gofio'r diweddar Alun R. Edwards. 

25/07/2022