A hwythau wedi'u lleoli uwchben traeth Tresaith yng Ngheredigion, mae Bay Coffee Roasters wedi cael eu henwi ymhlith y cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yn fyd-eang eleni, gan ennill gwobr tair seren ‘Great Taste’ am eu cynnyrch 'Indonesian Sumatran Fairtrade Organic' yn y gwobrau bwyd a diod enwog. Mae Bay Coffee Roasters hefyd wedi bod yn arddangos eu cynnyrch yn y cytiau Masnach ym Mhentre' Ceredigion ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon lle mae cannoedd o ymwelwyr â'r Eisteddfod wedi cael cyfle i flasu’r cymysgedd coffi gwych.

Mae’r ‘Great Taste’, a gaiff ei drefnu gan y ‘Guild of Fine Foods’, yn cael ei gydnabod fel stamp rhagoriaeth sy’n fawr ei fri gan fanwerthwyr bwyd a’r rheiny sy’n caru bwyd, gan eu bod yn rhoi gwerth ar flas yn uwch na phob dim arall. Mae'r holl gynhyrchion sy’n cael eu beirniadu yn cael eu blasu'n gudd: mae pob cynnyrch yn cael ei dynnu o'i becyn felly ni ellir ei adnabod, cyn ei gynnwys mewn proses feirniadu gadarn ac aml-haenog. Eleni, cynhaliwyd y beirniadu dros 90 diwrnod mewn dau leoliad beirniadu (Dorset a Llundain) gyda phanel o fwy na 500 o feirniaid. Fel rhan o’r cystadlu eleni, cyflwynwyd cynnyrch bwyd a diod o 110 o wledydd o bob rhan o'r byd.

Cafodd dros 14,000 o gynhyrchion eu rhoi drwy broses feirniadu gudd a thrylwyr, a disgrifiwyd Bay Coffee Roasters fel “Crema dwfn, tywyll a chyfoethog. Mae'r aroglau yn ein hatgoffa o'r pren cedrwydden a geir mewn tiwbiau sigâr o ansawdd. Mae blasau tyner, melys, sbeislyd yn dawnsio yn y geg ac yna'n dod at ei gilydd mewn harmoni cytbwys sy'n gorffen gydag ôl-flas ychydig yn felys. Dyma goffi rhyfeddol sy’n gymhleth ond yn gwbl hawdd i’w yfed. Dyma goffi llawn gyda blas sbeis yn y blaen. Mae’n gymhleth ond hefyd yn grwn gyda blas siwgr llosg sy’n para.”  Dyfarnwyd gwobr tair seren ‘Great Taste’ i  241 o  gynhyrchion a hynny am ‘fwyd a diod blasus eithriadol’.

Mae Bay Coffee Roasters yn unigryw gan eu bod yn rhostio’r cyfan gan ddefnyddio trydan sy'n 100% adnewyddadwy, o fferm wynt yng Ngogledd Cymru, gan osgoi defnyddio nwy sy’n wahanol i lawer o rostwyr coffi eraill.  Mae'r coffi hefyd yn cael ei fewnforio mewn ffyrdd sy'n cefnogi mudiadau sy’n helpu i wella bywydau'r rhai sydd ynghlwm â’r ffermydd megis Coffee Kids, Food 4 Farmers a International Women's Coffee Alliance.

Dywedodd Duncan Gray, perchennog Bay Coffee Roasters: "Rydym wrth ein bodd yn ennill gwobr tair seren ‘Great Taste’ am ein coffi Sumatra Indonesia. Dyma'r bumed flwyddyn i ni ennill gwobr ‘Great Taste’ ac rydyn ni'n teimlo fod hyn yn arwydd o'n hawydd i barhau i wella. Rydym wedi cael cefnogaeth aruthrol gan ein cwsmeriaid ac yn gwerthfawrogi'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi ein hannog ni drwy gynlluniau fel Cywain a Menter a Busnes. Hefyd mae ein cyngor lleol Ceredigion wedi rhoi cyfleoedd i ni hyrwyddo ein cynnyrch drwy farchnadoedd a digwyddiadau lleol.”

“Rydym yn dal i fod yn fusnes teuluol a ddechreuodd ar dyddyn bach yng Nghenarth, ond rydym wedi dod ymhell ers adeiladu ein rhostiwr coffi cyntaf. Rydym yn fusnes sy'n ymfalchïo mewn dulliau prosesu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd tra'n dal i gynnal coffi o ansawdd uchel y gall pob un ei fwynhau.”

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio, “Mae'n newyddion gwych fod busnes llwyddiannus arall yng Ngheredigion yn cael ei gydnabod am ei gynnyrch o safon.  Dwi mor falch fod Duncan a'r tîm wedi cael cydnabyddiaeth am y bumed flwyddyn yn olynol am safon ardderchog eu coffi, gan dynnu sylw at ansawdd y cynhyrchwyr bwyd yma yng Ngheredigion.  Mae Bay Coffee Roasters yn dod â chyflogaeth i'r ardal ac maen nhw’n enghraifft wych o'r hyn y gall entrepreneuriaid lleol ei gyflawni dros economi Ceredigion.”

01/08/2022