Mae papur wedi cael ei gymeradwyo i sicrhau y bydd cymuned y Lluoedd Arfog yn parhau i gael eu cefnogi yng Ngheredigion.

Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 06 Rhagfyr 2022, nododd Cyngor Sir Ceredigion adroddiad ynghylch Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog yn unol â Deddf y Lluoedd Arfog 2021.

Mae’r ddyletswydd, a ddaeth i rym ar 22 Tachwedd, yn gosod cyfrifoldeb cyfreithiol ar wasanaethau lleol ac yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau ystyried sut y bydd eu prosesau o ran gwneud penderfyniadau yn effeithio ar aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog i ymgorffori Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef mecanwaith allweddol sy’n helpu Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr y Deyrnas Unedig.

Bydd yn ofynnol i Gynghorau, Ymddiriedolaethau’r GIG, a chyrff lleol eraill ledled y DU, sy’n darparu gwasanaethau i gymuned y Lluoedd, gadw at Ddyletswydd gyfreithiol newydd sy’n adlewyrchu gwerthoedd allweddol y Lluoedd Arfog.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion: “Er bod y Cyfamod ei hun wedi bodoli ers mwy na degawd, mae’r datblygiadau cyfreithiol yn helpu i sicrhau amrywiaeth eang o gymorth ar gyfer y rheiny sy’n gwasanaethu eu gwlad. Rydym yn cydnabod y Ddyletswydd Gofal a osodwyd arnom ac nid yw hyn yn newydd i Geredigion gan ein bod wedi cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn rhagweithiol dros y ddegawd ddiwethaf, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Rwy’n falch i gefnogi’r adroddiad hwn gan ein bod yng Ngheredigion wedi cymryd camau mawr ymlaen i feithrin ymwybyddiaeth, ynghyd â hyrwyddo’r arfer o weithio mewn partneriaeth gyda chymuned y Lluoedd Arfog. Ar y cyd â’n partneriaid, edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith hwn i gael effaith gadarnhaol ar y personél sy’n gwasanaethu, eu teuluoedd, a chyn-filwyr.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod y cyfraniad enfawr a wneir i’n cymunedau gan bersonél sy’n gwasanaethu, eu teuluoedd a chyn-filwyr. Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o hyn am eu hymroddiad a’u gwaith caled parhaus yng Nghymuned Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion i sicrhau y cefnogir trigolion y Lluoedd Arfog yn llawn yn y sir.”

Mae ymyrraeth gadarnhaol wedi cael ei rhoi ar waith gan y Cyngor i gefnogi personél y Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a milwyr wrth gefn, ac amlygir hyn trwy Fforwm Cymuned y Lluoedd Arfog. Mewn cydweithrediad â phartneriaid statudol allweddol a thrydydd parti, mae’r Awdurdod Lleol wedi mynd ati’n rhagweithiol i geisio nodi cymuned y Lluoedd Arfog trwy gyfrwng gwasanaethau addysg, tai a gofal iechyd a bydd y gwaith hwn yn parhau.”

Mae’r ymdrechion hyd yma wedi arwain at sefydlu gwasanaethau cymorth a darparu cefnogaeth i deuluoedd a phlant yng nghymuned y Lluoedd Arfog.

06/12/2022