Mae dau deulu o Syria sy'n byw yn Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn gweithio'n galed tuag at eu profion theori car y DU.

Bu teuluoedd Rasoul a Jarallah yn astudio ar-lein gyda John Hughes, tiwtor o Dysgu Bro Ceredigion. Defnyddiodd John gemau a chwisiau er mwyn gwneud y broses o astudio elfennau megis arwyddion ffordd a phellteroedd stopio yn ddiddorol, ac roedd y teuluoedd wedi mwynhau'r cwrs yn fawr iawn.

Mae pasio'r prawf theori yn anodd i nifer o siaradwyr Saesneg, felly i'r teuluoedd o Syria, roedd pasio'r prawf mewn iaith dramor yn dipyn o her, yn ogystal â dysgu ar-lein oherwydd cyfyngiadau Covid. 

Dywedodd Diyar Rasoul, “Y rhwystr mwyaf yr oeddwn yn ei wynebu wrth geisio sicrhau fy nhrwydded lawn oedd y ffaith bod yn rhaid i mi sefyll y prawf theori yn Saesneg – pan gyrhaeddais y DU, nid oeddwn yn gallu siarad nac ysgrifennu Saesneg o gwbl. Bydd trwydded yrru yn fy helpu i sicrhau gwaith yn haws gan fy mod yn byw mewn ardal wledig lle y mae'r gwasanaeth bws yn gyfyngedig.”

Mae eu gwaith caled a'u hymroddiad wedi talu ar ei ganfed, ac mae nifer o'r dysgwyr eisoes wedi pasio'r prawf, yn ogystal â'r prif brawf gyrru.

Dywedodd y tiwtor John, “Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil iawn bod yn diwtor a chyflwyno'r dosbarthiadau a'u gweld yn pasio'r prawf theori ac yna eu gweld yn gyrru o gwmpas y dref. Mae'n peri i mi deimlo'n falch iawn o'r hyn y maent wedi'i gyflawni mewn cyfnod mor fyr.”                      

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb am Ailsefydlu Ffoaduriaid, "Mae’n galonogol gweld y teuluoedd o Syria yng Ngheredigion yn setlo ond hefyd yn gweithio'n galed i ddatblygu eu hunain. Mae gwneud y cwrs hwn wedi help datblygu'r teulu Rasouls a sgiliau a rhagolygon y teulu Jarallahs. Rwy'n annog pawb i weithredu ar neges Diyar – dysgwch rywbeth newydd yn eich amser rhydd. Da iawn. أحسنت.”

Am yr holl waith caled, mae HCT Ceredigion wedi rhoi stand bachyn côt sy'n cynnwys y ddraig Gymreig, a wnaed â llaw, i'r ddau deulu.

Da iawn. أحسنت

02/11/2022