Cynghorir trigolion ac ymwelwyr â Cheredigion i fod yn ddiogel ac i beidio â gwneud teithiau diangen yn ystod y tywydd oer iawn sydd gennym ar hyn o bryd.
Amodau gyrru, 17 Rhagfyr 2022
Mae’r tywydd mewn rhannau helaeth o Geredigion wedi gwaethygu dros nos.
Mae hyn wedi effeithio ar amodau’r ffyrdd i’r graddau sydd wedi effeithio ar weithgareddau cynnal a chadw dros y gaeaf y Cyngor. Nid yw wedi bod yn bosib i drin yr holl brif ffyrdd.
Y rhagolygon ar gyfer dydd Sadwrn yw glaw ac eirlaw a fydd yn gwneud amodau teithio hyd yn oed yn fwy peryglus.
Cynghorir y cyhoedd yn gryf felly i beidio a theithio oni bai ei fod yn hanfodol ac i fod yn hynod ofalus. Bydd y Cyngor yn parhau yn ei ymdrechion i ddelio â’r sefyllfa fel y bydd adnoddau ac amodau’n caniatáu yn unol â Chynllun Gwasanaeth Dros y Gaeaf.
Safleoedd Gwastraff Cartref, 17 Rhagfyr 2022
Mae’r Safleoedd Gwastraff Cartref canlynol hefyd ar gau oherwydd amodau tywydd gwael: Cilmaenllwyd ger Aberteifi; Rhydeinon, Llanarth; a Llanbedr Pont Steffan.
Ysgolion ar gau, 16 Rhagfyr 2022
Dyma’r ysgolion sydd wedi cau heddiw oherwydd sefyllfa’r tywydd:
- Ysgol Uwchradd Aberteifi, Aberteifi.
Casgliadau Gwastraff
Bydd casgliadau gwastraff yn cael eu casglu lle bo hynny'n ddiogel. Os bydd casgliadau heb eu casglu, bydd angen ail gyflwyno ar y dyddiad casglu nesaf.
Cadw Ceredigion yn ddiogel yn ystod y tywydd oer, 12 Rhagfyr 2022
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn trin ei brif rwydwaith ffyrdd gyda halen/graean ers peth amser bellach. Fodd bynnag, mae'r llwybrau hyn sydd wedi'u trin ymlaen llaw yn parhau i fod yn beryglus, gyda llwybrau nad ydynt wedi'u trin yn fwy peryglus fyth.
Rhagwelir y bydd yr amodau oer yn parhau am o leiaf weddill yr wythnos hon a thu hwnt. Bydd y Cyngor yn ymdrechu i barhau i drin llwybrau sydd wedi'u trin yn barod, a llwybrau eraill nad ydynt wedi'u trin ymlaen llaw, yn unol ag adnoddau.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Argyfyngau Sifil: “Mae staff y Cyngor yn gweithio oriau hir i sicrhau bod y sir yn cadw i symud yn ystod y cyfnod yma o dywydd oer iawn. Byddwch yn ymwybodol bod cyflwr y ffyrdd yn parhau i fod yn beryglus. Cynghorir y cyhoedd i feddwl am eu taith cyn mentro allan ac ystyried a yw’r daith yn hanfodol. Gall teithiau nad ydynt yn hanfodol eich peryglu eich hunain ac eraill.”
Mae’n bosib y bydd gwasanaethau megis casglu gwastraff yn cael eu amharu arnynt oherwydd y tywydd. Cadwch olwg ar y dudalen we am aflonyddwch i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff.
Gall ysgolion gael eu heffeithio oherwydd y tywydd felly cadwch olwg ar sianeli eich ysgol chi am unrhyw ddiweddariad.
Ewch i www.ceredigion.gov.uk am ragor o gyngor a diweddariadau. Byddwch yn ofalus, byddwch yn gyfrifol.
12/12/2022