Unwaith eto bydd Baneri Glas yn cael eu chwifio ar bedwar o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion yn 2022 yn Y Borth, De Aberystwyth, Llangrannog a Tresaith, gyda 13 o draethau ychwanegol yn ennill statws Gwobr Glan Môr a 4 arall yn ennill Gwobrau Arfordir Glas.

Rhaid i draethau sy'n ennill gwobrau'r Faner Las ac Arfordir Glas gyrraedd y safon ansawdd dŵr uchaf a chânt eu beirniadu am ddarparu cyfleusterau i ddefnyddwyr traethau ac am ddangos rheolaeth dda a darpariaeth diogelwch. Mae Gwobr Glan y Môr yn cydnabod traethau sydd â chyfleusterau cyhoeddus da, ansawdd dŵr, darpariaeth diogelwch a rheolaeth.

Mae’r Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio wedi croesawu’r newyddion bod nifer o’n traethau yn parhau i gael eu cydnabod yn y modd hwn, gyda’r gwobrau meincnod ansawdd hyn: “Mae’n wych gweld baneri Gwobrau Glas a Glan y Môr yn chwifio ar draethau ymdrochi mwyaf poblogaidd Ceredigion eto eleni, ac rydym yn llwyr ddisgwyl gweld ein harfordir a’n traethau’n brysur iawn unwaith eto drwy gydol 2022 wrth i’r economi ymwelwyr adfer ar ôl effeithiau’r pandemig.

“Rwyf hefyd yn falch o ddweud; heb gefnogaeth barhaus a gwerthfawr y grwpiau gwirfoddol ac unigolion niferus sy’n hyrwyddo ein mantra Caru Ceredigion, wrth iddynt gynnal gweithgaredd glanhau rheolaidd ar ein traethau ac ar hyd blaendraeth Ceredigion, maent wedi cyfrannu mewn unrhyw fodd at ein gallu i gyflwyno’r fath ymgyrch unwaith eto, efo nifer fawr o’n traethau yn llwyddo i ennill y gwobrau mawreddog hyn sy’n gosod traethau Ceredigion ymhlith y gorau oll yng Nghymru a’r DU”.

Mae’r traethau Ceredigion canlynol wedi ennill gwobrau arfordirol 2022:

Baner Las
Y Borth, De Aberystwyth, Llangrannog & Tresaith.

Gwobr Glan y Môr
Y Borth, Clarach, Gogledd Aberystwyth, De Aberystwyth, Llanrhystud, Harbwr Cei Newydd, Dolau/Gogledd Cei Newydd, Cilborth-Llangrannog, Llangrannog, Penbryn, Tresaith, Aberporth a Mwnt.

Arfordir Glas
Llanrhystud, Cilborth-Llangrannog, Penbryn & Mwnt.

Mae’r cynlluniau gwobrau arfordirol yng Nghymru yn cael eu cydlynu a’u gweinyddu gan Cadwch Gymru’n Daclus.

25/05/2022