Mae ystod eang o wybodaeth bwysig yn ymwneud â llesiant lleol, o iechyd corfforol i gysylltedd digidol, bellach ar gael yn Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion 2022.

Mae’r Asesiad o Lesiant Lleol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion, yn cynnwys amrywiaeth o ddata lleol a gafwyd trwy waith ymchwil, casglu tystiolaeth a gwrando ar bobl Ceredigion a rhanddeiliaid. Mae nodi tueddiadau’r dyfodol a’r pethau y gallwn eu rhagweld yn digwydd yfory yn helpu i lywio’r hyn y mae angen i ni ddechrau cynllunio ar ei gyfer yn awr.

Cynhelir yr Asesiad bob 5 mlynedd fel un o ofynion cyfreithiol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac fe’i defnyddir i helpu i lywio a datblygu’r Cynllun Llesiant Lleol.

Cyhoeddir y Cynllun Llesiant nesaf y flwyddyn nesaf a bydd yn rhedeg am 5 mlynedd. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus, drwy waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yn cydweithio i wella llesiant trigolion a chymunedau Ceredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn un o aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac ar 26 Gorffennaf 2022, nododd Aelodau Cabinet Ceredigion gynnwys yr asesiad a chydnabod pwysigrwydd yr wybodaeth i helpu i lywio’r Cynllun Llesiant Lleol ar gyfer Ceredigion yn 2023-2028.

Y Cynghorydd Bryan Davies yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion. Dywedodd: “Mae’r Asesiad o Lesiant Lleol yn adnodd pwysig iawn y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei ddefnyddio fel sail i baratoi’r Cynllun Llesiant Lleol ar gyfer trigolion a chymunedau Ceredigion. Mae’r asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n golygu y gellir ei ddefnyddio i lywio cynlluniau yn y dyfodol a gall sefydliadau gyfeirio ato wrth baratoi ceisiadau am arian neu wrth ddangos angen i ganolbwyntio ar feysydd penodol.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, mae copi o’r asesiad ar gael i’w weld mewn llyfrgelloedd lleol neu drwy ddilyn y ddolen ganlynol: www.ceredigion.gov.uk/media/11234/asesiad-o-lesiant-lleol-ceredigion-2022.pdf

01/08/2022