Mae arwyddion newydd wedi cael eu gosod yng nghanol tair o drefi Ceredigion i helpu i chwarae rhan gadarnhaol mewn gwella profiadau preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Cyflwynwyd “Ardaloedd Dim Alcohol” y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol trefi Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan yn wreiddiol yn 2017, ac maent bellach wedi cael eu hymestyn hyd nes mis Hydref 2023.

Yn dilyn adnewyddu’r gorchmynion, cynhaliwyd arolwg o’r arwyddion gan swyddogion Diogelwch Cymunedol Ceredigion ac aethpwyd ati i ailosod 33 o arwyddion coll neu nad oedd modd eu darllen er mwyn atgoffa pobl o’r parthau di-alcohol hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiogelu’r Cyhoedd: “Y gobaith yw y bydd y mesurau amddiffynnol hyn, ar y cyd â chymorth yr heddlu lleol, yn parhau i chwarae rhan gadarnhaol o ran gwella profiadau preswylwyr ac ymwelwyr yng nghanol trefi Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi.”

Cyflwynir Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ac mae’n gwahardd yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yn yr ardaloedd dynodedig. Maent yn caniatáu Swyddogion yr Heddlu i gymryd unrhyw alcohol sy’n cael ei yfed neu y credir y bydd yn cael ei agor a’i yfed yn y parthau.

Bydd unigolyn a fydd yn gwrthod ildio’r alcohol i Swyddog yr Heddlu neu a fydd yn gwrthod symud allan o’r parthau i yfed yr alcohol yn cyflawni trosedd, ac fe allent wynebu llys gydag uchafswm y ddirwy ar gyfer y drosedd hon yn £500. 

24/05/2022