Mae aelodau’r cyhoedd sy'n gwerthu anifeiliaid anwes yn cael eu hannog i wirio a oes angen trwydded arnynt.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn atgoffa pobl sy'n gwerthu anifeiliaid anwes yn rheolaidd am elw boed hynny'n werthwyr preifat sy'n gwerthu o gartref, yn defnyddio'r rhyngrwyd i hysbysebu neu'n hysbysebu'n lleol i fod yn ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol newydd i fod â thrwydded.

Cafodd y gyfraith ynghylch gwerthu anifeiliaid anwes ei diweddaru ym mis Medi 2021 i ddarparu mesurau diogelu ehangach i’r anifeiliaid hynny sy’n cael eu gwerthu fel anifeiliaid anwes. Enw’r rheoliadau newydd yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021.

Mae’n annhebygol y bydd angen trwydded ar unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n gwerthu anifail anwes achlysurol, er enghraifft cŵn bach/cathod bach o’u ci/cath anwes eu hunain. Er hyn, os yn bridio ac yn gwerthu’n rheolaidd er mwyn gwneud elw, gallai’r gyfraith hon fod yn berthnasol.

Mae'r Cyngor bellach wedi pennu'r ffioedd ar gyfer y trwyddedau newydd hyn. Mae'n croesawu unrhyw un sy'n meddwl y gallai fod angen trwydded arnynt ar gyfer gwerthu anifeiliaid anwes, i gysylltu â'r Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd i ofyn am drwydded.

Y Cynghorydd Matthew Vaux yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiogelu’r Cyhoedd. Dywedodd: “Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i aelodau’r cyhoedd sy’n bridio anifeiliaid anwes yn rheolaidd fod â thrwydded. Gall anifail anwes gynnwys unrhyw anifail fel cath, ci, aderyn neu pysgodyn a gedwir er budd personol, cwmnïaeth, dibenion addurniadol, neu unrhyw gyfuniad o'r tri. Os ydych yn meddwl y gallai fod angen trwydded arnoch, cysylltwch â Thîm Diogelu’r Cyhoedd.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i roi cyngor wrth benderfynu a allai fod angen trwydded ar gyfer gweithgaredd. Mae’r canllawiau’n amlinellu enghreifftiau o’r math o weithgaredd y dylid neu na ddylid ei ystyried o fewn cwmpas y rheoliadau a’r dangosyddion y dylid eu hystyried wrth benderfynu a oes angen trwydded. I gael golwg ar y canllawiau, ewch i: llyw.cymru/canllawiau-statudol-ar-y-gyfundrefn-drwyddedu-ar-gyfer-gwerthu-anifeiliaid-anwes

Gellir cael gafael ar Ganolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor ar y ffôn: 01545 570881 neu drwy e-bost: clic@ceredigion.gov.uk

06/10/2022