Gyda mwy o bobl yn ymweld ag arfordir Cymru nag erioed o'r blaen, mae aflonyddu ar fywyd gwyllt ar gynnydd.

Yn ystod y tymor bridio (Medi a Hydref) efallai y dewch ar draws morloi bychain blewog gwyn ar draethau neu frigiadau creigiog ar hyd arfordir Cymru - yn aml ar eu pennau eu hunain. Fodd bynnag, mae'n debyg y bydd y fam gerllaw, felly mae'n hanfodol cadw'ch pellter fel y gall ddychwelyd at ei morlo bychan i'w fwydo.

Ddydd Llun 05 Medi, boddodd morlo bychan ger Ceinewydd a allai fod o ganlyniad i aflonyddu gan gerddwyr cŵn. Gwelwyd y morlo bychan gyda benyw ar draeth Dolau yn gynnar yn y bore, a chynghorwyd cerddwyr cŵn i gadw eu pellter. Gadawodd y morloi’r traeth a gwelwyd y morlo bychan nesaf yn y dŵr wrth y grisiau ar ddiwedd wal yr harbwr lle y’i gwelwyd ar yr wyneb cwpl o weithiau cyn mynd dan y dŵr a pheidio dod yn ôl i'r wyneb, ac fe dybir ei fod wedi boddi.

Dywedodd Melanie Heath, Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion: “Mae angen lle ac amser ar forloi bychain i orffwys a thyfu, maen nhw’n cael eu bwydo gan eu mamau am ddim ond tair wythnos cyn bod rhaid iddyn nhw ofalu amdanyn nhw eu hunain. Mae'n hanfodol eu bod yn cael lle yn ystod y cyfnod hwn. Gall aflonyddu arwain at gael eu gadael a marwolaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod y Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: “Mae’n bwysig iawn cofio mai anifeiliaid gwyllt yw’r creaduriaid eiconig hardd hyn felly rwy'n annog pawb i ddilyn ein Cod Morol Ceredigion a chadw pellter i'w fwynhau o bell. Rydym hefyd yn rhybuddio perchnogion cŵn i gadw eu cŵn draw o draethau lle mae morloi bychain yn gorffwys ac yn tyfu.”

Gellir dod o hyd i God Morol Ceredigion yma: https://cardiganbaysac.org.uk/wp-content/uploads/2022/05/Cardigan-Bay-Marine-Code.pdf a gwybodaeth ynghylch morloi bychan yma: https://cardiganbaysac.org.uk/live-and-dead-stranded-animals/

 

06/09/2022