Mae Aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion, y Dirprwy Arweinydd, ac aelodau o bwyllgorau’r Cyngor wedi cael eu hethol heddiw yn ystod Cyfarfod o’r Cyngor Llawn.

Cadarnhawyd yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Gwener, 20 Mai 2022, y byddai’r canlynol yn gweithredu fel Aelodau Cabinet:

• Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phartneriaethau
• Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaeth Gydol Oes a Llesiant
• Cynghorydd Catrin M. S. Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid
• Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio
• Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael
• Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer y Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon
• Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
• Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Diogelu’r Cyhoedd

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: “Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â thîm da o Gynghorwyr a’r Aelodau Cabinet a benodwyd i roi buddiannau Ceredigion yn gyntaf. Mae’r Aelodau Cabinet eu hunain yn frwdfrydig ac yn barod i ddechrau ar eu gwaith.”

Cabinet yw'r rhan o'r Cyngor sy'n gyfrifol am gymryd y rhan fwyaf o benderfyniadau gweithrdol o ddydd i ddydd.

Penodwyd hefyd Gynghorwyr i gynrychioli pwyllgorau’r Cyngor yn ystod y cyfarfod heddiw.

20/05/2022