Mae rhybuddion llifogydd wedi cael eu rhyddhau gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Ceredigion yn dilyn glaw trwm a pharhaus.

Dydd Llun, 22.02.2021, @13:30

Mae'r ffyrdd canlynol nawr ar agor:

  • Pont Llechryd
  • B4476 Abercerdin

Dydd Sul, 21.02.2021, @11:30 

Mae'r ffyrdd canlynol nawr ar agor:

  • A484, Cenarth
  • A475, Adpar

Dydd Sadwrn, 20.02.2021, @18:00 – Adpar

Yn dilyn penderfyniad yn gynharach heddiw (20.02.2021) gan grŵp ymateb amlasiantaeth i wagio nifer o eiddo preswyl yn Adpar, agorodd Cyngor Sir Ceredigion Canolfan Orffwys Frys ddynodedig yn Llandysul am 3pm i ddarparu llety i breswylwyr. Fodd bynnag, penderfynodd nifer o'r preswylwyr barhau yn eu cartrefi tra bod eraill wedi mynd i aros at deulu a ffrindiau. O ganlyniad, caewyd y Ganolfan Orffwys Frys am 6pm, gyda'r opsiwn i'w ailagor pe bai angen.

Dydd Sadwrn, 20.02.2021, @14:00 – Ffyrdd ynghau

Mae rhagor o ffyrdd ynghau oherwydd llifogydd ac amodau gyrru peryglus:

  • A484, Cenarth
  • A475, Adpar

Dydd Sadwrn, 20.02.2021, @11:20 – Afon Aeron, Aberaeron

Mae rhybudd llifogydd pellach wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer Afon Aeron, Aberaeron.

Mae hyn yn ychwanegol at y rhai sydd eisoes mewn grym:

  • Afon Teifi, Pont Llandysul, Llandysul
  • Afon Teifi, Llechryd
  • Afon Teifi, Cenarth
  • Afon Teifi, Castellnewydd Emlyn
  • Afon Teifi, Llanybydder

I ddarllen mwy am y rhybuddion hyn ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Dydd Sadwrn, 20.02.2021, @08:00 – Ffyrdd ynghau

Yn dilyn cyhoeddi rhybuddion llifogydd ar hyd yr Afon Teifi oherwydd glaw trwm a pharhaus, mae'r ffyrdd canlynol ar gau oherwydd lefelau dŵr cynyddol:

  • Pont Llechryd
  • B4476 Abercerdin
  • B4459, Capel Dewi –tirlithriad

Disgwylir i'r afon gyrraedd lefelau uchel ac rydym yn cynghori pobl i gymryd gofal ychwanegol dros y 36 awr nesaf.

Dydd Gwener, 19.02.2021,@17:30 – Rhybuddion Llifogydd ar gyfer Afon Teifi

Mae rhybuddion llifogydd wedi cael eu rhyddhau ar gyfer yr ardaloedd canlynol:

  • Afon Teifi, Pont Llandysul, Llandysul
  • Afon Teifi, Llechryd
  • Afon Teifi, Cenarth
  • Afon Teifi, Castellnewydd Emlyn

Disgwylir i'r afon gyrraedd lefelau uchel ac rydym yn cynghori pobl i gymryd gofal ychwanegol dros y 36 awr nesaf. I ddarllen mwy am y rhybuddion hyn ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Dydd Gwener, 19,02.2021, @14:00 – Rhybudd am Law

Mae’r rhybudd ambr mewn grym o ddydd Gwener, 19 Chwefror 2021, hyd at ddydd Sadwrn, 20 Chwefror 2021.

Disgwylir glaw trwm a chyson a all arwain at rywfaint o lifogydd gan amharu ar drafnidiaeth a gwasanaethau

Mae negeseuon byddwch yn barod am llifogydd ar gyfer Afonydd Ceredigion eisoes wedi'u cyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n debygol y bydd rhai o'r rhain, yn enwedig yng Nghanol a De'r Sir, yn cael eu cynyddu i Rybuddion Llifogydd gyda’r potensial i gael rhai Rhybuddion Llifogydd Difrifol.

Gallai hyn effeithio ar eiddo sy’n ffinio ag afonydd, yn ogystal â phontydd yn croesi’r afonydd a all olygu posibilrwydd o gau heolydd.

Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd am ddiweddariadau am sefyllfa’r tywydd, neu ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld pa rybuddion sydd mewn grym.

Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon.

19/02/2021