Gan fod y rhan fwyaf o gyfyngiadau cyfreithiol ar gyswllt cymdeithasol a gwisgo masgiau yn cael eu diddymu yn Lloegr heddiw, hoffem atgoffa ein trigolion a'n hymwelwyr bod angen i ni i gyd yma yng Ngheredigion ddilyn cyfyngiadau Coronafeirws Cymru – sy'n cynnwys gwisgo gorchudd wyneb a chadw pellter cymdeithasol y tu mewn i fannau cyhoeddus.

Ar ein gwefan mae gennym gyfres o ddeunyddiau y gellir eu lawrlwytho y gall busnesau Ceredigion, fel siopau a lletygarwch, eu harddangos i atgoffa pawb o'r rheolau hyn. Gellir dod o hyd i'r rhain yn http://www.ceredigion.gov.uk/busnes/covid-19-cefnogi-economi-ceredigion/ .

Gall llacio cyfyngiadau yn ddiweddar ledled y DU achosi dryswch i rai, yn enwedig gyda'r gwahaniaethau mewn cyfyngiadau rhwng Cymru a Lloegr. Gan nad yw'r pandemig ar ben a bod y feirws yn parhau i ledaenu ar draws ein sir a'n gwlad, mae'r un mor bwysig parhau i ddilyn y cyfyngiadau ar hyn o bryd, nawr ag yr oedd o'r blaen, i gadw Ceredigion yn ddiogel.

Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn nodi y dylai ymwelwyr sy’n dod i Geredigion neu unrhyw le yng Nghymru o fannau eraill yn y DU gymryd prawf llif unffordd, sydd am ddim, cyn iddynt deithio i Gymru. Mesur ychwanegol yw cymryd profion pellach yn ystod eu harhosiad. Mae profion llif unffordd cyflym dim ond ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau coronafeirws. Os oes gennych symptomau COVID-19 mae angen i chi hunan-ynysu ac archebu prawf PCR o https://www.gov.uk/get-coronavirus-test . Gallwch archebu pecynnau profi gartref llif unffordd cyflym ar GOV.UK. Gallwch archebu un pecyn profi cartref (7 prawf) ar y tro. Gallwch hefyd gasglu pecynnau profi yn bersonol, dod o hyd i'ch man casglu agosaf ac amseroedd agor o wefan y GIG, https://maps.test-and-trace.nhs.uk/#  

Gadewch i ni i gyd chwarae ein rhan i leihau cyfleoedd i'r feirws gael ei drosglwyddo a chadw achosion yn isel i leihau niwed pellach.

19/07/2021