Mae gofynion newydd bellach wedi dod i rym sy'n ei gwneud yn ofynnol i fangreoedd manwerthu gymryd camau ychwanegol i amddiffyn gweithwyr a chwsmeriaid rhag y coronafeirws.

Roedd y mesurau ychwanegol eisoes yn ganllawiau, ond maent bellach yn ofynion cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys busnesau sy'n gwerthu bwyd neu ddiod i'w bwyta oddi ar y safle. Mae’r gofynion yma yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod systemau ar waith ar gyfer rheoli mynediad i'r fangre a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn y fangre ar unrhyw adeg;
  • Darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i’w defnyddio gan gwsmeriaid pan fyddant yn dod i mewn i’r fangre ac yn ei gadael;
  • Cyflwyno mesurau i ddiheintio unrhyw fasgedi, trolïau, neu gynwysyddion tebyg a ddarperir i gwsmeriaid eu defnyddio yn y fangre;
  • Atgoffa cwsmeriaid i gynnal pellter o 2 fetr rhyngddynt a gwisgo gorchudd wyneb drwy:
    • arddangos arwyddion a chymhorthion gweledol eraill ym mhob rhan o’r fangre;
    • gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd;
  • Cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre ac, wrth wneud hynny, ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny (pan fo busnes yn cyflogi pump neu fwy o bobl);

Mae'n ofynnol o hyd i bob mangre gymryd pob mesur rhesymol arall i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, megis:

  • newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
  • rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
  • rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
  • fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;
  • gosod rhwystrau neu sgriniau;
  • darparu cyfarpar diogelu personol neu ei gwneud yn ofynnol eu defnyddio.

Gellir dod o hyd i’r Rheoliadau a’r canllawiau ar y dudalen Deddfwriaeth y coronafeirws a chanllawiau ar y gyfraith ar wefan Llywodraeth Cymru ac hefyd canllawiau i gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd.

Mae posteri a chanllawiau defnyddiol ar gael ym Mhecyn Cymorth Busnes Cymru. Mae templed asesiad risg Covid-19 ar gael gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig).

26/01/2021