Mae buddsoddiad o £1.26 miliwn wedi cael ei sicrhau gan Gyngor Sir Ceredigion ochr yn ochr â Cyngor Sir Powys o gyllid 'creu lleoedd’ Llywodraeth Cymru ar gyfer ardal canolbarth Cymru i helpu canol trefi i ailadeiladau’n ôl.

Fel rhan o'r rhaglen adfywio Trawsnewid Trefi ehangach, mae'r grant newydd hwn wedi'i gynllunio i gynnig cymorth hyblyg ar gyfer ystod eang o brosiectau gan gynnwys datblygiadau seilwaith gwyrdd i welliannau masnachol a phreswyl mewnol ac allanol i berchnogion busnes.

Y gobaith yw y bydd yr arian hwn, ochr yn ochr â phecynnau cymorth Trawsnewid Trefi eraill i gefnogi canol y dref a masnachwyr yn ymateb i Covid-19. Bydd hyn yn digwydd trwy ariannu addasiadau a gwella diogelwch y cyhoedd, yn helpu gydag ymdrechion adfer o'r pandemig - gan helpu i ddod â chyfleoedd economaidd a chyflogaeth newydd yn ôl i ganol ein trefi.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio: “Rwy’n falch iawn o’n gweld yn sicrhau’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i helpu ein trefi ledled Canolbarth Cymru, ac yma yng Ngheredigion. Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol ar fusnesau a bywoliaethau, ac mae wedi cael effaith parhaus ar ganol ein trefi.

“Mae ein sylw fel Cyngor wedi bod yn gadarn ar gefnogi ein heconomi trwy gydol y pandemig trwy gymhwyso ystod o fesurau cymorth busnes, ac mae'n galonogol nawr gallu dechrau canolbwyntio ar adferiad a thwf yn y dyfodol. Tra bod y pandemig yn dal i fynd rhagddo, mae'r llif cyllid cyfalaf hwn yn gyfle gwych i helpu i ddod â gweithgaredd ymlaen a fydd yn ailadeiladu canol ein trefi i sicrhau eu bod yn lleoedd diogel, croesawgar a deniadol i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.”

Bydd y grant yn rhedeg am flwyddyn yn dechrau 01 Ebrill 2021, a bydd angen cwblhau prosiectau erbyn 01 Mawrth 2022. Mae'r grant creu lleoedd ar gael i fusnesau preifat, gan gynnwys datblygwyr, busnesau'r trydydd sector, a'r sector cyhoeddus.

I gael mwy o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais, ewch i wefan y Cyngor.

17/05/2021