O ganlyniad i'r cyfraddau heintiau cyfredol yn y sir a'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwnaed penderfyniad i ddod a dyddiad ailagor y ddarpariaeth chwaraeon dan do a gweithgaredd corfforol yng nghyfleusterau a weithredir gan Gyngor Sir Ceredigion ymlaen.

Dyma’r amserlen wedi ei ddiweddaru.

  • Cerdded er Lles – 17 Mai
  • Dosbarthiadau Ymarfer Corff Awyr Agored; Defnydd sefydliadau cymunedol o Gyfleusterau Awyr Agored gan gynnwys Caeau Pob Tywydd (Llambed, Ysgol Bro Teifi a Synod Inn) a Meysydd Chwarae – 28 Mai
  • Cyfleusterau Hamdden Dan Do; Canolfan Hamdden Aberaeron; Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan; Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan; a Neuadd Chwaraeon Ysgol Penglais gan gynnwys defnydd gan Sefydliadau Cymunedol – yr wythnos yn dechrau 07 Mehefin ymlaen.

Mae ailagor yn parhau i ddibynnu ar y ffactor nad oes cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion yn y sir.

Mae’r gwaith o datgomisiynu Canolfan Hamdden Plascrug ac ail-adfer y lleoliad fel cyfleuster hamdden wedi dechrau yn dilyn ei ddefnydd fel ysbyty maes. Nid oes dyddiad ar gyfer ei hailagor ar hyn o bryd. 

Mae Canolfan Hamdden Aberteifi yn cael ei ddefnyddio fel Canolfan Brechu Torfol ar hyn o bryd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.    

Bydd gwybodaeth ar gael ar wefan Ceredigion Actif a thudalennau Facebook, Twitter ac Instagram.

Diolch yn fawr i holl ddefnyddwyr y cyfleusterau yma am ddeall y sefyllfa yn ystod yr amserau heriol hyn. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i’n cyfleusterau a’n sesiynau gweithgaredd.

13/05/2021