Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sefydlu dau ysbyty maes dros dro yn y sir mewn ymateb i Coronafeirws COVID-19

Mae’r safleoedd yng Ngheredigion wedi’u lleoli yng Nghanolfan Hamdden Aberteifi, gan ddwyn yr enw Ysbyty Enfys Aberteifi, a Chanolfan Hamdden Plascrug ac Ysgol Uwchradd Penweddig, gan ddwyn yr enw Ysbyty Enfys Aberystwyth.

Mae Hywel Dda hefyd wedi talu teyrnged i'r ‘ymdrechion rhyfeddol’ a wnaed mewn llai na thair wythnos gan bartneriaid, contractwyr, cymunedau lleol, staff a gwirfoddolwyr a oedd yn rhan o’r prosiect hwn. Bydd y safleoedd yn cael eu trosglwyddo i'r Bwrdd Iechyd erbyn dydd Llun 27 Ebrill 2020, ac yn cael eu defnyddio yn ôl yr angen.

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y gwaith o sefydlu’r cyfleusterau newydd hyn. Mae medru trosglwyddo’r adeiladau cyn pen tair wythnos ers dechrau ar y gwaith yn dangos ymdrech aruthrol. Hoffwn ddiolch i holl staff y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor, a’r holl gontractwyr lleol sydd wedi gweithredu ar fyr rybudd, am eu gwaith caled yn troi dwy ganolfan hamdden ac un ysgol i fod yn gyfleusterau gwelyau ysbyty ychwanegol, a hynny mewn llai na thair wythnos.”

Mae cyfanswm o saith ysbyty dros dro wedi cael eu haddasu o ganolfannau a chyfleusterau hamdden a chwaraeon ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Hywel Dda: “Fel bwrdd iechyd rydym yn barod am yr heriau sydd o'n blaenau ac rydym am i'n cymunedau fod yn sicr ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd y pwynt hwn yn seiliedig ar ragdybiaethau cynllunio a modelu cenedlaethol.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiectau hyn am eu hymdrech a’u hymrwymiad rhagorol.”

Dyma restr lawn o’r ysbytai maes dros dro ledled ardal gwasanaeth Hywel Dda:
• Ysbyty Enfys Aberystwyth – Canolfan Hamdden Plascrug ac Ysgol Uwchradd Penweddig
• Ysbyty Enfys Aberteifi – Canolfan Hamdden Aberteifi
• Ysbyty Enfys Caerfyrddin – Canolfan Hamdden Caerfyrddin
• Ysbyty Enfys Llanelli – Canolfan Hamdden Llanelli
• Ysbyty Enfys Selwyn Samuel – Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli
• Ysbyty Enfys Scarlets – Parc Y Scarlets, Llanelli
• Ysbyty Enfys Carreg Las – Bluestone, Sir Benfro

24/04/2020