Rydym wedi sylwi ar gynnydd sylweddol yn y dyddiau diwethaf yn nifer yr achosion o COVID-19 yn ardal Aberystwyth.

Rydym yn gynyddol bryderus ynglŷn â’r cynnydd hwn yn yr achosion yn ardal Aberystwyth. Roedd bron i ddwy ran o dair o'r holl achosion a nodwyd ddydd Sul, 20 Rhagfyr a hanner yr achosion a nodwyd ddydd Llun, 21 Rhagfyr gan ein Tîm Olrhain Cysylltiadau yn digwydd bod yn ardal Aberystwyth. Dyma 38 o achosion ychwanegol mewn deuddydd a gwelwn fod y nifer yn cynyddu'n ddyddiol yn yr ardal.

Y gyfradd bresennol yng Ngheredigion yw 247.6 fesul 100,000 o’r boblogaeth (am 9am ar 21 Rhagfyr 2020). Dyma'r uchaf y mae'r gyfradd wedi bod yng Ngheredigion yn ystod y pandemig.

Mae nifer yr achosion positif ar draws y Sir yn parhau i gynyddu ar gyflymder na welsom o'r blaen. Mae'r math newydd o COVID-19 i’w weld ym mhob rhan o Gymru. Mae'n lledaenu'n gyflymach ac mae angen i bob un ohonom fod yn fwy gofalus gan sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau bob amser.

Mae Cymru bellach wedi cyrraedd Lefel Rhybudd 4. Hynny yw, rhaid i bobl aros gartref oni bai bod rheswm dros adael a rhaid i bobl beidio ag ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl eraill sydd ddim yn byw gyda nhw.

Rydym yn gwybod ei bod hi'n anodd cyfyngu ar faint o bobl rydym yn eu gweld, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ond mae cwtogi ar ein hymwneud â phobl yn hanfodol er mwyn cadw niferoedd y feirws i lawr. Dyma sut y byddwn yn amddiffyn ein hanwyliaid yn y pen draw.

Mae symptomau coronafeirws yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson o’r newydd a cholli’r synnwyr i arogli neu flasu neu rhyw newid o ran y synhwyrau hynny. Ond byddwch yn ymwybodol o symptomau cynnar eraill megis pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer. Rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n anhwylus i fod yn ofalus iawn ac i olchi dwylo a chadw pellter ac, os oes amheuaeth, i drefnu prawf.

Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael y cartref dim ond i gael eu profi. Ni ddylai neb fynd i'r gwaith na gadael y tŷ os oes ganddo ef neu hi symptomau - ystyriwch a diogelwch gymaint ag y gallwch bawb yn swigen eich aelwyd.

Mae'n rhaid i chi chwarae eich rhan. Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch ddilyn y canllawiau:

  • Cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol â phobl sydd ddim yn byw gyda chi neu sydd ddim yn eich swigen gefnogaeth.
  • Gwisgo gorchudd wyneb (os ydych yn gallu) yn mhob lle cyhoeddus dan do.
  • Aros gartre.
  • Peidio â ffurfio aelwyd estynedig (mae oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl yn cael ymuno ag un aelwyd arall i greu swigen gefnogaeth).
  • Peidio â chwrdd dan do â neb ond y bobl rydych chi’n byw gyda nhw neu sydd yn eich swigen gefnogaeth.
  • Peidio â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth mewn gardd breifat.
  • Peidio â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth yn yr awyr agored. 
  • Gweithio gartre os medrwch. 
  • Peidio â theithio heb esgus resymol. 
  • Peidio â theithio dramor heb esgus resymol.
  • Os oes gennych symptomau COVID-19, hunan-ynyswch ar unwaith a threfnu prawf gan adael eich cartref yn unig i gael y prawf. Mae angen archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. Drwy wneud hyn, byddwn yn diogelu iechyd a lles ein pobl fwyaf bregus, gan gynnwys y gwasanaethau gofal ar gyfer yr henoed a’r sawl y mae eu cyflyrau meddygol yn peri eu bod yn arbennig o agored i niwed gan yr haint COVID-19.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

22/12/2020