Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai canolfannau cymunedol amlbwrpas gan gynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, neuaddau eglwys a chanolfannau cymunedol eraill ailagor o 30 Gorffennaf. Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau yn y rheoliadau ar 7 Awst ac mae'r canllawiau cenedlaethol yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori awdurdodau y bydd y rheoliadau ar ymgynnull cymdeithasol yn dal i atal rhai gweithgareddau rhag digwydd.

Yn y cyfamser, i gefnogi a darparu cyngor i grwpiau sy'n paratoi i ailagor eu lleoliadau cymunedol yng Ngheredigion, mae panel amlasiantaeth wedi'i sefydlu i sicrhau ailagor cyfleusterau yn ddiogel ac yn gymesur. Mae’r panel wedi’i greu o dan Is-Grŵp Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion; Deall ein Cymunedau. Yn arwain ar ddatblygiad y grŵp mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) a Chyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'r panel yn cynnwys cynrychiolaeth o’r Adran Iechyd a Diogelwch, Iechyd yr Amgylchedd a Diogelwch Cymunedol.

Bydd y panel yn cynnal cyfres o sesiynau briffio ar gyfer unigolion, grwpiau neu sefydliadau sy'n gyfrifol am ganolfannau cymunedol amlbwrpas, sy'n canolbwyntio ar adeiladau, pobl a gweithgareddau. Mae'r panel hefyd wedi creu pecyn adnoddau i gynorthwyo i ailagor lleoliadau cymunedol yn ddiogel. Bydd y pecyn adnoddau yn cael ei gyhoeddi a'i rannu unwaith y bydd Canllawiau terfynol Llywodraeth Cymru ar gael.

Er nad oes angen cymeradwyaeth yr Awdurdod Lleol i ailagor ar leoliadau cymunedol, mae Llywodraeth Cymru yn annog yn gryf i’r rhai hynny sy’n rheoli canolfannau i hysbysu'r awdurdod lleol os ydyn nhw'n bwriadu ailagor unrhyw gyfleusterau cymunedol. Gall y panel a sefydlwyd gefnogi a chynghori cyfleusterau cymunedol ar agweddau megis rheoli cyfleusterau, iechyd a diogelwch ac asesiadau risg. Mae'r panel yn annog yn gryf i unrhyw un sy'n gyfrifol am gyfleusterau cymunedol i ofyn am gyngor i sicrhau bod trefniadau'n ddiogel a’u bod yn cydymffurfiad yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mae'r panel wedi’i greu i helpu ac i gefnogi grwpiau a cyfleusterau.

Gellir cyflwyno cwestiynau, ceisiadau neu cais am wybodaeth am sesiynau briffio neu'r pecyn adnoddau i'r grŵp sy'n cyfarfod yn wythnosol trwy CAVO ar gen@cavo.org.uk neu dros y ffôn ar 01570 423232.

26/08/2020