Wrth i adeg y Nadolig agosáu, atgoffir trefnwyr digwyddiadau cymunedol o'r pwysigrwydd i ddilyn holl reoliadau COVID-19, yn enwedig o ran cynulliadau cymdeithasol dan do ac yn yr awyr agored.

Fel rheol, mae gwyliau'r Nadolig yn dymor arbennig o boblogaidd ar gyfer codi arian mewn cymunedau neu cynnal digwyddiadau cymdeithasol, ond yn aml gall hyn olygu nifer fawr o bobl yn dod at ei gilydd mewn un lle.

Fodd bynnag, eleni mae'n rhaid i ni ystyried a ddylem drefnu neu fynychu digwyddiadau cymunedol sy'n debygol o ddenu crynoadau mawr o bobl yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, er mwyn sicrhau ein bod yn lleihau cyswllt ag eraill y tu allan i'n cartrefi estynedig, lle bynnag y bo modd. Mae’r rheoliadau* yn nodi bod rhai eithriadau penodol yn ymwneud â ‘digwyddiadau wedi’u trefnu’ penodol iawn. Caniateir uchafswm o 30 o bobl yn yr awyr agored, a 15 dan do.

Rhaid inni barhau i sicrhau bod pawb yn cadw pellter 2 fetr oddi wrth eraill, yn gwisgo gorchudd wyneb ac anogir pobl i olchi eu dwylo yn rheolaidd.

Ystyrir bod swyddogion yr Heddlu a'r Awdurdod Lleol yn swyddogion gorfodi o dan reoliadau COVID-19. Mae trefnu digwyddiadau uwchlaw maint penodol yn cael ei ystyried yn ymddygiad risg arbennig o uchel, ac mae yna gosb bosibl gychwynnol o £200, sy’n adlewyrchu'r canlyniadau a all fod â’r potensial i fod yn ddifrifol. Mae erlyniad troseddol hefyd yn opsiwn ar gyfer digwyddiadau o'r fath, a gall y llys roi dirwyon diderfyn. Mae trefnu digwyddiad cerddoriaeth didrwydded yn drosedd ar wahân, a all arwain at gosb sefydlog o £10,000 neu gollfarn / dirwy ddiderfyn. Pan gynhelir digwyddiadau, rhaid i'r trefnydd gynnal asesiad risg, a dylai hyn gynnwys sut i atal torri'r terfynau ar niferoedd yn ogystal â mesurau eraill i sicrhau bod y digwyddiad yn “Cofid-Ddiogel”.

Rydym yn deall bod codi arian ar lefel gymunedol yn ffactor pwysig i grwpiau a sefydliadau, a gellir ddod o hyd i restr o grantiau a chronfeydd Coronafeirws yma: cronfeydd-covid-funds.pdf (ceredigion.gov.uk)

Mae rheoliadau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd, ac felly'n destun newidiadau. Edrychwch ar y diweddariadau diweddaraf yma: https://llyw.cymru/deddfwriaeth-y-coronafeirws-chanllawiau-ar-y-gyfraith

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

07/12/2020