Gofynnwyd i nifer o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Aberaeron hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
Rhaid i bob cyswllt a gadarnhawyd o'r achos hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Bydd y disgyblion yn cael eu haddysgu o bell am y cyfnod yma. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â phob un o’r rhieni.
Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.
07/12/2020