Yn dilyn y gwaith sylweddol a wnaed gan gwmni adeiladu WRW, mae’r cynlluniau ar gyfer Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron wedi cael eu cymeradwyo.

Penodwyd WRW yn gwmni adeiladu ar gyfer y Cynllun ym mis Hydref 2019. Ers hynny, datblygwyd y cynlluniau ar gyfer yr adeilad mewn ymgynghoriad â’r holl bartneriaid.

Mae cynllun trawiadol Cylch Caron yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Tai Canolbarth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru. Bydd yn darparu adeilad newydd sbon gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â thai arbenigol i bobl sydd ag anghenion gofal yn ardal Tregaron.

Cyflwynwyd cynlluniau i Adran Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion, a chymeradwywyd y cynlluniau ar gyfer y materion a gadwyd yn ôl.

Mae gan y cynllun Uwch-swyddog Cyfrifol newydd. Yn dilyn ymddeoliad Sue Darnbrook, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion, gwnaed Peter Skitt yn Uwch-swyddog Cyfrifol. Gan fod iechyd yn elfen amlwg iawn yn y cynllun, cytunwyd gan yr holl bartneriaid y byddai Peter, Cyfarwyddwr Sirol Ceredigion gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ymgymryd â’r rôl.

Dywedodd Peter Skitt: “Hoffwn dalu teyrnged i Sue am ei gwaith eithriadol o galed a’i hymrwymiad wrth dywys datblygiad Cylch Caron at y cam presennol, ac edrychaf ymlaen at barhau hyn a gweld y prosiect yn dwyn ffrwyth er budd pobl Tregaron a’r cymunedau cyfagos.”

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, “Fel Cadeirydd y Bwrdd Rhanddeiliaid, hoffwn ddiolch i Sue Darnbrook am eu cyfraniad i Cylch Caron a dymuno’r gorau i Peter Skitt yn ei rôl newydd wrth iddo arwain y cynllun ymlaen.”

Gweledigaeth Cylch Caron yw adeiladu ar y cydnerthedd a’r ymrwymiad sy’n bodoli eisoes i ofalu am bobl yng nghymuned Cylch Caron. Drwy hyn bydd y bartneriaeth yn creu model arloesol ar gyfer gofal yn y gymuned mewn ardal wledig i fodloni’r anghenion gofal, iechyd a thai yn yr ardal a fydd yn addas ar gyfer heddiw ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Gyda’r caniatâd cynllunio wedi’i gytuno, mae hon yn elfen o’r achos busnes llawn sy’n agos at gael ei gwblhau. Y cam nesaf ar gyfer y cynllun fydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Achos Busnes Llawn.

23/06/2020