Ar drothwy penwythnos Gŵyl Banc mis Mai, mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhybuddio trigolion y sir nad oes unrhyw newid i’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Dylai pawb barhau i aros adref a pheidio â theithio oni bai ei fod yn angenrheidiol.

Yn y Deyrnas Unedig, mae mwy na 30,000 o bobl wedi marw o’r coronafeirws ac mae mwy na 1,000 o bobl wedi marw yng Nghymru. Er bod y ffigurau’n parhau’n gymharol isel yng Ngheredigion, nid dyma’r adeg i laesu dwylo.

Iechyd, lles a diogelwch trigolion y sir yw blaenoriaeth Cyngor Sir Ceredigion, ac mae camau gweithredu ar waith i sicrhau na fydd hynny’n cael ei beryglu. Trwy gadw at y rheolau sy’n bodoli, gallwn gadw’r nifer sydd wedi’u heintio o’r coronafeirws yn isel yng Ngheredigion.

Mae’r rhan fwyaf o’r siopau a’r busnesau yn parhau i fod ar gau, a dylai pobl ond fynd allan i brynu bwyd, am resymau iechyd, i wneud ymarfer corff yn lleol, neu deithio i’r gwaith, ond dim ond pan nad oes modd gweithio o gartref.

Yn unol â hynny, mae holl berchnogion ail gartrefi yng Ngheredigion wedi cael llythyr yr wythnos hon yn eu hatgoffa i beidio â gadael eu prif breswylfa i ymweld â’u hail-gartref yn y sir, gan y gallai hynny gyfrannu at ledaenu’r coronafeirws, ynghyd â rhoi straen ar wasanaethau lleol.

Cofiwch y dylech gadw pellter o 2m â phobl eraill, gan olchi eich dwylo yn aml am 20 eiliad, ac ni ddylech fynd allan os oes gennych unrhyw symptomau o’r coronafeirws, yn aros am brawf neu ganlyniadau prawf, neu os oes gennych achos wedi’i gadarnhau, a rhaid i chi ddilyn y rheolau o ran hunanynysu.

Felly, gyda’r rhagolygon am dywydd braf y penwythnos hwn, ewch ati i fwynhau picnic adref, yn hytrach na theithio i fan cyhoeddus.

Diolch i bawb sydd eisoes yn cadw at y canllawiau hyn er mwyn cadw Ceredigion yn fyw ac yn iach.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. Arhoswch adref. Achubwch fywydau.

• Darperir diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa yng Ngheredigion ar wefan y Cyngor.
• Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram Cyngor Sir Ceredigion
• Mae’r cyfraddau o ran nifer yr achosion a’r marwolaethau ledled Cymru yn cael eu diweddaru’n ddyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

07/05/2020