Ar 17 Rhagfyr 2020, dedfrydwyd dau fasnachwr o Geredigion gan Lys Ynadon Aberystwyth am dwyll. Mae Danny McClelland sy'n masnachu fel 'DVC Home Improvements' wedi cael ei ddedfrydu i 16 wythnos o garchar wedi’i ohirio am ddwy flynedd, a gorchmynnwyd iddo wneud 200 awr o waith di-dâl, 15 diwrnod o weithgarwch adsefydlu a thalu iawndal o £2,000 i'r dioddefwr ar ôl pledio'n euog i dwyll, tra cafodd Colin Harding o Landysul Orchymyn Cyrffyw 12 mis gyda monitro electronig o 7pm i 7am a gorchmynnwyd iddo dalu £250 o iawndal o fewn 14 diwrnod, costau pellach o £750 i Gyngor Sir Ceredigion, a gordal llys o £90.

Ymchwiliwyd i Danny McClelland o Fronhaul, Cilcennin, Llanbedr Pont Steffan, sy'n masnachu fel DVC Home Improvements, gan Safonau Masnach (Diogelu'r Cyhoedd) Cyngor Sir Ceredigion ar ôl derbyn cwyn ei fod wedi camarwain gŵr gweddw 85 oed, a oedd wedi'i gofrestru'n ddall, am waith yr honnodd ei fod wedi'i wneud yng nghartref y dioddefwr. 

Clywodd Ynadon Aberystwyth fod McClelland wedi galw yng nghartref y dioddefwr yn ddigymell ac wedi dweud wrtho fod angen gwaith ar ei simneiau, teils crib, a rhannau eraill o'i eiddo. Pan ofynnodd y dioddefwr am waith papur gan McClelland, roedd y gwaith papur yn nodi bod y gwaith yn cynnwys capio'r ddwy simnai ac ailosod teils crib, ond ni wnaed hynny.

Roedd McClelland wedi rhoi dyfynbris o £4,750 am y gwaith ac roedd y dioddefwr wedi talu £2,000 i ddechrau, ond daeth adroddiad gan syrfëwr a benodwyd gan Safonau Masnach Ceredigion i’r casgliad mai cosmetig yn unig oedd y gwaith ac nad oedd ei angen, gan ei brisio ar £291.50.

Ar 17 Rhagfyr 2020, yn Llys Ynadon Aberystwyth, dedfrydwyd Mr McClelland i 16 wythnos o garchar wedi’i ohirio am ddwy flynedd a gorchmynnwyd iddo wneud 15 diwrnod o weithgarwch adsefydlu, 200 awr o waith di-dâl, a thalu iawndal o £2,000 i’r dioddefwr o fewn 14 diwrnod. Gorchmynnodd y Llys hefyd i McClelland dalu costau erlyn llawn o £2,159.64 i Gyngor Sir Ceredigion, a gordal llys o £122.

Fe wnaeth y Llys ystyried ple euog cynnar McClelland a'r effaith y byddai dedfryd o garchar ar unwaith yn ei chael ar ei deulu ifanc. Fodd bynnag, cafodd ei rybuddio gan y llys, pe bai'n methu â chydymffurfio ag unrhyw ran o'r ddedfryd, yna byddai'r ddedfryd o garchar yn cael ei gweithredu ar unwaith.

Ymchwiliwyd i Colin Harding, o Bontsian, Llandysul, gan Safonau Masnach (Diogelu'r Cyhoedd) Cyngor Sir Ceredigion am dwyll. Roedd wedi bod yn masnachu fel adeiladwr cynlluniau rheilffyrdd model ac roedd eisoes wedi cael ei ddedfrydu am droseddau twyll tebyg ym mis Mehefin 2019.

Clywodd Ynadon Aberystwyth fod Harding wedi camarwain cwsmer ar ôl methu â darparu bwrdd sylfaen gwerth £249.99 ar gyfer rheilffyrdd model. Pan gafodd ei gyfweld gan Swyddogion o Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Ceredigion, cyfaddefodd Harding ei fod yn dwyllwr a'i fod wedi cyflawni twyll.

Roedd wedi gwneud esgusodion dros beidio â chyflenwi'r nwyddau, gan gynnwys marwolaeth dau berthynas, teithiau dramor, a chael ei siomi gan gludwyr. Pan aeth y terfyn amser ar gyfer cyflenwi’r nwyddau heibio, cysylltodd y dioddefwr â Safonau Masnach. Yna, roedd Harding wedi addo ad-dalu'r taliadau a wnaed gan y dioddefwr, ond ni ddigwyddodd hynny.

Rhoddwyd dedfryd wedi’i gohirio i Harding am droseddau twyll a diogelwch cynnyrch yn y gorffennol. Dywedodd ei gyfreithiwr wrth ei amddiffyn nad oedd Harding yn bwriadu twyllo pobl a bod ei gleient wedi cael ei lethu gan ddyled, a’i fod yn fater o 'ddwyn o’r naill law i dalu’r llall.'

Ar 17 Rhagfyr 2020, cafodd Mr Harding Orchymyn Cyrffyw 12 mis gyda monitro electronig rhwng 7pm a 7am, a gorchmynnwyd iddo dalu £250 o iawndal o fewn 14 diwrnod, costau pellach o £750 i Gyngor Sir Ceredigion, a gordal llys o £90. Dywedodd Cadeirydd y Fainc wrth Harding fod hwn yn beth ofnadwy i'w wneud i'r gymuned, ond y byddai’n anghyfiawn gweithredu’r ddedfryd ohiriedig o dan yr amgylchiadau.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiogelu’r Cyhoedd. Dywedodd, “Mae angen i fasnachwyr anonest fod yn ymwybodol na fydd troseddau o’r natur hon yn cael eu goddef. Mae Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd Ceredigion yn gweithredu nid yn unig i amddiffyn defnyddwyr rhag masnachwyr anonest, ond hefyd i helpu i sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i ymddiried mewn masnachwyr gonest, fel sy’n wir am y mwyafrif o fasnachwyr yng nghymuned fusnes Ceredigion.”

21/12/2020