Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datblygu ac yn gweithredu dull olrhain cyswllt ar gyfer coronafeirws yng Ngheredigion.

Yn gryno, pan mae gwybodaeth am ganlyniadau positif am coronafeirws yn ein cyrraedd, mae aelod o’n Tîm Diogelu’r Cyhoedd yn gwneud cyswllt dros y ffon gyda’r unigolyn sydd wedi ei brofi’n bositif er mwyn casglu gwybodaeth drylwyr sy’n cynnwys adnabod ‘cysylltiadau agos’ y gallant o bosib wedi trosglwyddo’r feirws iddynt.

Mae’r wybodaeth yn cael ei gasglu a’i gadw’n ddiogel ar system ar-lein sydd wedi cael ei greu yn benodol at bwrpas olrhain cyswllt. Gwneir cyswllt wedyn gyda’r cysylltiadau agos er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol ac yn dilyn canllawiau tynn o ran diogelu eu hunain a’u teuluoedd a’u cadw rhag lledu’r feirws ymhellach.

Mae’r dull hwn o olrhain cyswllt eisoes wedi cael ei rannu gyda Chyngor Môn ac yn y broses o gael ei ledaenu ar draws Sir Benfro a Sir Gâr mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Nid yw Ceredigion wedi datblygu ap ar gyfer olrhain symudiadau pobl oherwydd bod sefydliadau megis Prifysgolion Kings ac Imperial y Llundain yn datblygu’r meddalwedd yma’n barod. Ein bwriad ni fydd i hyrwyddo ap olrhain symudiadau pan fydd wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

07/05/2020