Heddiw, 7 Rhagfyr 2020, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.
Mae heddiw yn ddiwrnod i ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg mae sefydliadau’n eu cynnig, a’r hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio gyda nhw. Mae’n gyfle i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg ac i geisio cynyddu’r nifer sy’n dewis eu defnyddio.
Ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg, mae’r Cyngor yn cyhoeddi rhestr o hawliau er mwyn i’n defnyddwyr gwasanaethau wybod bod hawliau ganddynt i ddefnyddio’r Gymraeg. Yn ogystal â hyn, fel Cyngor hoffem weld mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau yn Gymraeg. Rydym wedi mynd ati i greu gweithlu fydd yn gallu gweithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly rydym am annog pobl i gysylltu gyda ni yn y Gymraeg.
Datblygwyd hawliau’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg.
Gyda ni, mae gennych chi hawl i…
- Defnyddio’r Gymraeg ar y ffôn
- Ffurflenni Cymraeg
- Llythyrau ac e-bost yn Gymraeg
- Gwneud cais am swydd yn Gymraeg
- Defnyddio’r Gymraeg mewn derbynfa
- Arwyddion yn Gymraeg
- Gwefannau yn Gymraeg
- Dogfennau yn Gymraeg
- Negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg
I gael rhestr lawn o’ch hawliau, ac union fanylion yr hawliau sydd gennych chi i ddefnyddio’r Gymraeg, ewch i: https://bit.ly/ComisiynyddyGymraeghawliau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn hapus iawn i ddathlu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg 2020. Mae gyda ni staff gweithgar ac ymroddedig sy’n siarad Cymraeg ar draws gwasanaethau’r Cyngor, ac rydym am annog pobl i gysylltu gyda ni yn y Gymraeg, ac i ddefnyddio’r gwasanaethau Cymraeg hynny sydd ar gael. Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg neu’n ddysgwr, sicrhewch eich bod yn gwneud defnydd o’r iaith a’r hawliau hynny sydd ar gael i chi.”
Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth: https://bit.ly/HawliauDefnyddiorGymraeg
Eich Cyngor, eich Iaith, eich dewis.
07/12/2020