Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chyngor a’i chanllawiau ar fasgiau.

Bydd bellach yn orfodol i staff a chwsmeriaid wisgo masg ym mhob man cyhoeddus o dan do. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o leoliadau megis siopau a chanolfannau siopa, mannau addoli, siopau trin gwallt a salonau, sinemâu ac amgueddfeydd, campfeydd a chanolfannau hamdden, ac unrhyw le sy’n agored i aelodau’r cyhoedd. 

Nawr, bydd angen i ddefnyddwyr canolfannau hamdden a champfeydd wisgo masg pan fyddant yn mynd i mewn i’r adeilad ac mewn mannau lle na wneir ymarfer corff fel mesur ychwanegol i amddiffyn eu hunain a'r staff. Bydd angen i ddefnyddwyr y gwasanaeth gadw’r masg ymlaen os ydynt yn paratoi i wneud ymarfer corff, yn newid, neu’n gwneud unrhyw weithgaredd nad yw’n egnïol, yn enwedig pan fyddant mewn cysylltiad agos â phobl eraill.

Fodd bynnag, yn ôl canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, nid ydynt yn argymell gwisgo masg wrth wneud ymarfer corff oherwydd gall chwys achosi i’r gorchudd wyneb fynd yn wlyb yn eithaf cyflym. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd anadlu ac annog micro-organebau i dyfu. Mae'n cynghori defnyddwyr y gwasanaeth i gynnal pellter corfforol oddi wrth eraill fel un o'r mesurau ataliol pwysicaf yn ystod ymarfer corff.

Diolchwn i chi ymlaen llaw am eich cefnogaeth barhaus. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl i canolfannau hamdden a champfeydd Cyngor Sir Ceredigion.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

Mae'r holl wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ynglŷn â'r coronafeirws i'w gweld yma. Rhif ffôn Canolfan Gyswllt Gorfforaethol y Cyngor yw 01545 570881.

21/09/2020