Anogir deiliaid Bathodynnau Glas yng Ngheredigion i adnewyddu eu bathodynnau os ydynt wedi dod i ben yn ystod y cyfnod clo. Nodwch nad oes negeseuon i atgoffa pobl i adnewyddu yn cael eu rhyddhau mwyach.

Yn dilyn pwysau ar wasanaethau ar ddechrau’r flwyddyn o ganlyniad i'r coronafeirws, gwnaed esemptiad gan Awdurdodau Lleol i beidio â rhoi Hysbysiadau Tâl Cosb (PCN) i bobl sy’n defnyddio Bathodynnau Glas sydd â dyddiad dod i ben o 1 Ionawr 2020 neu wedi hynny.

Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, mae’r penderfyniad llacio cyffredinol ar daliadau bellach wedi dod i ben a bydd gweithgarwch gorfodi parcio yn parhau yn ôl yr arfer.

Cynghorir defnyddwyr sydd â Bathodynnau Glas wedi dyddio i gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i'w hadnewyddu. Gall pobl naill ai adnewyddu eu Bathodynnau Glas ar-lein trwy ymweld â'n gwefan neu ffonio 01545 900 333 i siarad â swyddogion cynllun y Bathodynnau Glas yng Ngheredigion er mwyn trefnu bod ffurflen gais yn cael ei hanfon atynt. Nid oes gan y tîm prosesu ôl-groniad o geisiadau ar hyn o bryd a byddant yn ymdrin â’r cais cyn pen pedair wythnos o gael yr holl wybodaeth ofynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid: “Mae cynllun y Bathodyn Glas yn drefniant gwych. Yn anffodus, o bryd yw gilydd, mae angen adnewyddu'r bathodyn ac mae’n bwysig gwneud hynny mewn da bryd er mwyn ei gadw mewn grym. I adnewyddu neu i ofyn am fathodyn newydd, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cyngor Sir Ceredigion ar-lein neu dros y ffôn.”

Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn drefniant Ewropeaidd sy'n ymwneud â chonsesiynau parcio i bobl sy'n anabl neu sy’n cael anawsterau difrifol wrth gerdded neu sydd â nam gwybyddol difrifol. I weld a ydych yn gymwys am Fathodyn Glas, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion.

14/10/2020